Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Deer Park Photograph
Industry
tourism
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

Mae arfordir Sir Benfro yn ardal gymhleth. Ceir yn y sir 186 milltir o arfordir, sy’n rhan o unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU. Mae dyfroedd gyda'r glannau, arfordir ac ardaloedd arforol cyfagos Sir Benfro yn bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran cadwraeth natur a thirlun. Mae’r sir hefyd yn gartref i un o brif borthladdoedd olew Ewrop a dwy derfynfa fferi, yn ogystal â diwydiannau pwysig twristiaeth, amaethyddiaeth a physgota – maent yn hanfodol bob un i economi’r sir.
Mae llu o sefydliadau a defnyddwyr yn nodweddu’r rhyngwyneb rhwng yr adnoddau amgylcheddol hyn a’r gweithgareddau economaidd lleol. Nid yw’r rhain wedi’u hintegreiddio a phrin yw’r cydweithio rhyngddynt; ni cheir fforwm unedig ar gyfer dadlau a chyfnewid gwybodaeth, a gwan yw eu gallu i ddatrys anghydfod a chynnal strwythurau adeiladu consensws.
Sefydlwyd Fforwm Arfordir Sir Benfro i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau hyn trwy weithio â phawb, gyda’r nod o wrando, cydlynu, darparu gwybodaeth a thywys.

HANES
FFORWM ARFORDIR SIR BENFRO

Sefydlwyd Fforwm Arfordir Sir Benfro yn swyddogol fis Mai 2000. Dechreuodd y tîm ar eu gwaith amser llawn o Ragfyr 2001, yn dilyn cwblhau cais Amcan Un yn llwyddiannus, a daethant ag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ynghyd. Mae’r holl bartneriaid yn gweithio i hybu dull cynaladwy o drin y gwaith o gynllunio, rheoli, defnyddio a datblygu Parth Morol cyfan Sir Benfro.

 

FAINT O’R SIR Y MAE
FFORWM ARFORDIR SIR BENFRO YN EI CHWMPASU?

Gan nad yw’r rhan fwyaf o Sir Benfro fwy nag ychydig filltiroedd o’r môr, a chan fod llawer o weithgareddau ar y tir ac ar y môr yn gallu dylanwadu ar y parth morol, y mater dan sylw fydd yn pennu pa ardal y mae Fforwm Arfordir Sir Benfro yn ei chwmpasu. Er enghraifft, fe all rheoli nentydd/afonydd mewndirol yn wael effeithio ar y dyfroedd arfordirol; gall arferion pysgodfeydd alltraeth effeithio ar reolaeth pysgodfeydd gyda’r glannau.

NODAU
FFORWM ARFORDIR SIR BENFRO

Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro yn hybu dull cynaladwy a strategol o drin gwaith cynllunio, rheoli, defnyddio a datblygu parth morol Sir Benfro, i sicrhau bod ei hasedion naturiol, diwylliannol, ac economaidd yn cael eu cynnal a'u gwella er lles a mwynhad y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

SUT Y GALLWN GYFLAWNI’R NODAU HYN?

Mae dwy ran i waith Fforwm Arfordir Sir Benfro. Y cyntaf yw rhedeg y Fforwm o ddydd i ddydd. Dan y rhaglen Amcan Un gyfredol, mae tîm Fforwm Arfordir Sir Benfro yn ymwneud ag amrywiaeth o Brosiectau a Gweithgareddau sydd o fudd i’r arfordir, ac yn galluogi’r Fforwm i gasglu llawer iawn o wybodaeth.
Mae hyn yn ei dro yn darparu gwybodaeth ar gyfer nod tymor hir Fforwm Arfordir Sir Benfro, sef llunio strategaeth rheoli a chynllun gweithredu ar gyfer yr arfordir a’r ddyfrffordd leol.

BUDDION
FFORWM ARFORDIR SIR BENFRO

Mae bod â sefydliad fel Fforwm Arfordir Sir Benfro yn y sir yn creu nifer o fuddion ar gyfer yr unigolyn yn ogystal ag ar gyfer sefydliadau statudol a gwirfoddol.

Mae’n creu strwythur hyblyg sy'n annog ymwneud a chydweithrediad pob buddgarfan ar bob lefel ac, ar yr un pryd, mae'n galluogi sefydliadau i gwtogi ar ddyblygu gwaith, amser ac adnoddau.

Mae’n darparu gwybodaeth ddiweddar ar faterion cyfredol heb unrhyw gost i’r defnyddiwr, ac mae’n gwella dealltwriaeth o sefydliadau eraill a’r cyhoedd.

Mae’n cynyddu amlygrwydd arfordir a dyfrffordd Sir Benfro a materion cysylltiedig, yn y sir a thu hwnt iddi.

Mae’n darparu cwmpas ar gyfer datblygu partneriaethau newydd i rannu adnoddau ac arbenigedd, gan leihau costau, ac yn helpu i ddatblygu partneriaethau mwy cynhwysol. Mae'n bosibl y bydd cyrff ariannu yn fwy hael o'r herwydd.

 

 

 

 
  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.