Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Forum Structure
Grwp Rheoli
Puffin Bird Image for mangement page
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd Grŵp Rheoli Fforwm Arfordir Sir Benfro yn cyfarfod bob chwarter. Dyma'r aelodau ar hyn o bryd:

 

Edward Holdaway Photograph

CADEIRYDD : Edward Holdaway, Cynghorydd ar ei Liwt ei Hun.

Cynghorydd ar ei liwt ei hun mewn materion gwledig yw Edward Holdaway, ac mae'n arbenigo mewn tirweddau dan warchodaeth.  Bu'n gweithio i'r Comisiwn Cefn Gwlad am nifer o flynyddoedd, lle bu'n ymwneud yn agos â chynllunio a rheoli Arfordiroedd Treftadaeth. Ef hefyd yw'r sawl y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i benodi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.  Mae'n cynrychioli'r Awdurdod ar Asiantaeth Ynni Sir Benfro a PLANED, sefydliad y mae ef yn Is-Gadeirydd arno.

 

Stephen Hurr Photograph

 

Stephen Hurr - Cyngor Sir Penfro.

Stephen Hurr yw Swyddog Cynlluniau Datblygu Cyngor Sir Penfro. Mae'n rheoli'r Uned Cynlluniau Datblygu (sy'n cynhyrchu'r Cynllun Datblygu Unedol ar y Cyd), yr Uned Cefn Gwlad (Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Tir Comin, Bioamrywiaeth) a'r Uned Data (Data cynllunio/Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol). Hefyd, ef yw cadeirydd Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Forol Arbennig Sir Benfro.

 

 

Dr. Carolyn Heeps - Stad y Goron.

Dr. Carolyn Heeps yw Rheolwr Polisi Amgylcheddol Morol ar gyfer Stad y Goron. Mae hi’n gyfrifol am faterion amgylcheddol cyffredinol yn ogystal â’r Gronfa Stiwardiaeth Forol.

 

Nic Wheeler Photograph

Nic Wheeler - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.


Nic Wheeler yw Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, a bu’n Ddirprwy ac yna’n Swyddog Parc Cenedlaethol cyn hynny. Mae hefyd yn Gynghorydd Cynllunio i CLlLC, yn aelod o Banel yr Amgylchedd Naturiol a Chefn Gwlad a Phanel Cynllunio Polisi Cymru y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, yn ogystal â bod yn aelod o Fforwm Cynllunio Defnydd Tir Llywodraeth Cynulliad Cymru a Menter Arfordir a Môr Cymru.

 

Ted Sangster Photograph

Ted Sangster - Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.


Ymunodd Ted Sangster ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau fel Rheolwr Cyffredinol (mae bellach yn Brif Weithredwr) ym 1998. Mae wedi treulio ei yrfa yn y diwydiant trafnidiaeth, gan gynnwys tair blynedd fel Prif Gyfarwyddwr British International Freight Association. Ymhlith ei deitlau eraill mae cyfarwyddwr Cwmni Dociau Aberdaugleddau a Chadeirydd D.V Howells Cyf.

 

Dr Steve Morris Photograph

Dr. Steve Morris – Coleg Sir Benfro.


Ar hyn o bryd, Dr. Steve Morris yw Tiwtor Addysg Uwch yn y Gyfadran Busnes, Gwyddoniaeth a Diwydiannau Gwasanaethau, Cydlynydd Astudiaethau HND/BSc Parth Arfordirol ac Amgylchedd Morol, a Chyfarwyddwr Uned Ymchwil Parth Arfordir ac Amgylchedd Morol Coleg Sir Benfro.
Ef oedd hwyluswr cyntaf y grŵp llywio a ddatblygodd Prosiect Fforwm Arfordirol Sir Benfro a bu'n ysgrifennydd y grŵp hyd nes y penodwyd staff amser llawn.

 

 

Paul Varallo Photograph

Paul Varallo – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Paul Varallo yw Rheolwr Amgylchedd (Gorllewin) Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae’n gyfrifol am yr holl ddeilliannau amgylcheddol y mae’r Asiantaeth yn gyfrifol amdanynt yn Sir Benfro a Cheredigion. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli arllwysiadau a gollyngiadau i’r awyr, i’r tir ac i’r dŵr, rheoli echdyniadau ac atafaeliadau, rheoli pysgodfeydd eog a physgodfeydd dŵr croyw, a hybu cadwraeth a hamdden sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r Asiantaeth.

 

Alison Smith Photograph

Alison Smith – Awdurdod Datblygu Cymru (WDA).

Alison Smith yw Rheolwr Amgylcheddol Cyfadran De Orllewin y WDA. Mae Alison yn gyfrifol am Raglen a Thîm Amgylchedd y Gyfadran, ac am ddatblygu rhaglen Busnes a’r Amgylchedd a rhaglen Tirweddau yn Gweithio i Gymru. Mae hi hefyd yn gyfrifol am faterion bioamrywiaeth a datblygiad, ac am roi’r polisi datblygu cynaladwy ar waith gyda thîm corfforaethol yr awdurdod.

 


David Worrall – Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

 
  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.