|
|
|
- Darparu llais ar gyfer ‘Arfordir a Dyfrffordd
Sir Benfro’ a hybu ei bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Darparu fforwm trafod sy'n annog cydweithrediad
a dialog rhwng holl fuddgarfanau a defnyddwyr Arfordir Sir Benfro.
- Darparu persbectif ehangach ar gyfer mentrau
unigol sy'n ymwneud â’r arfordir, a helpu i'w cydlynu
- Darparu cyngor ar faterion strategol a hwyluso
trafodaeth ar y cynigion datblygu o bwys neu ar y newidiadau eraill
sy'n debygol o effeithio ar Arfordir Sir Benfro.
- Sefydlu man cychwyn ar gyfer monitro iechyd cymdeithasol/
economaidd ac amgylcheddol Parth Morol Sir Benfro.
- Annog casglu a lledaenu gwybodaeth a hwyluso
datblygu rhaglen ymchwil a monitro.
- Annog cyfathrebu rhwng sefydliadau statudol er
mwyn osgoi dyblygu gwaith.
- Cynorthwyo i gydlynu mentrau unigol sydd eisoes
ar waith.
- Annog ymchwil i’r prosesau ffisegol a’r
amgylchedd naturiol, ynghyd â defnydd pobl o arfordir Sir Benfro,
a hybu ymwybyddiaeth o'r ymchwil yma.
|