Fe all Fforwm Arfordir Sir Benfro nodi materion arfordirol trwy ei ymwneud â nifer o weithgareddau. Dyma ambell un ohonynt.
Y COD MOROL
Mae defnyddwyr cychod ar draws y sir wedi bod yn treialu cod morol sydd
newydd ei greu ar gyfer Sir Benfro.
Fforwm Arfordir Sir Benfro fu’n cydlynu’r cynllun, ac fe
gasglwyd y wybodaeth ar ei gyfer gan y defnyddwyr cychod eu hunain.
Mae holl berchnogion cychod siartredig y sir ar gyfer teithiau plymio
am fywyd gwyllt yn dilyn set o ganllawiau. Nod y canllawiau yw cyfyngu
ar darfu ar fywyd gwyllt ar lwybrau poblogaidd twristiaeth forol.
Ceir codau ymddygiad sy’n ymwneud â morloi, dolffiniaid,
morfilod, llamidyddion ac adar y môr, yn ogystal â mapiau
parthu ar gyfer y mannau mwyaf sensitif a chanllawiau ar rywogaethau
morol eraill megis crwbanod môr, heulforgwn a heulbysgod.
Adolygir y Cod Morol hwn dros y gaeaf, a’i wneud yn ffurfiol ar
gyfer dechrau’r tymor nesaf.
GRŴP AWYR AGORED SIARTREDIG
SIR BENFRO
Daw’r grŵp Awyr Agored Siartredig â nifer o sefydliadau
at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth ac i ddatblygu gweithgareddau
awyr agored mewn ffordd gynaladwy, gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol
yn cael ei warchod. Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro yn darparu’r
prif gyswllt ar gyfer y prosiect hwn ar hyn o bryd.
YMGYRCH CADW CYMRU'N DACLUS
Fel aelod o’r grŵp llywio mae Fforwm Arfordir Sir Benfro
yn cefnogi gwaith Ymgyrch Cadw Cymru’n Daclus. Mae yna ddau brosiect
penodol sydd yn berthnasol i waith y Fforwm.
Y Cynllun Gofal Arfordirol: Mae hwn yn annog grwpiau ac unigolion i rannu’r gwaith o reoli’r arfordir drwy fabwysiadu traethau lleol a chanolbwyntio ar y gofal parhaus y mae ei angen arnynt.
Yr Arfordir Gwyrdd: Mae hyn yn canolbwyntio ar reoli traethau gwledig â dŵr o ansawdd da mewn ffordd sy’n sensitif tuag at yr amgylchedd.
Mae'r ddau brosiect yn gymorth i sicrhau bod Arfordir Sir Benfro'n cael ei reoli’n gynaladwy, ac felly'n cyflawni nodau Fforwm Arfordir Sir Benfro.
CYNGHORFEYDD ARFORDIROL
Bydd Fforwm Arfordir Sir Benfro yn cynnal y rhain yn rheolaidd mewn
gwahanol fannau ar hyd a lled Sir Benfro. Byddant yn rhoi’r cyfle
i unrhyw un ddod i weld y tîm ac i gael sgwrs anffurfiol ynghylch
unrhyw fater neu bryder ynglŷn â’r arfordir.



