Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Strategy
Industry image
Communities image
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro wrthi’n datblygu strategaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer Sir Benfro. Fe fydd hyn yn helpu i ddiffinio’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli parth morol y sir yn gynaladwy yn y tymor hir. Diffinnir yr ardal benodol hon fel llain o dir a môr o amrywiol led, gan ddibynnu ar natur anghenion yr amgylchedd ac anghenion rheoli. Unwaith y bydd y strategaeth wedi'i chynhyrchu, fe fydd yn darparu gwybodaeth ar gyfer gwaith Fforwm Arfordir Sir Benfro a'i bartneriaid yn y dyfodol.

Fe fydd y strategaeth yn dilyn egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol (ICZM). Mae ICZM yn ystyried effaith ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ac yn hwyluso integreiddio ystod eang o ddiddordebau a chyfrifoldebau.

Fe ddaeth egwyddorion ICZM i’r amlwg yn dilyn rhaglen UE a oedd yn edrych ar achosion problemau biolegol a dynol sy'n wynebu ardaloedd arfordirol ar hyn o bryd.

Fe gynhyrchodd yr UE argymhelliad bod ICZM yn cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r materion hyn, a bod dull Ewrop-gyfan yn cael ei sefydlu o reoli'r arfordir yn y tymor hir. Mabwysiadwyd yr argymhelliad ar Fai 30ain 2002, a gofynnwyd i bob gwlad oedd yn aelod gynhyrchu eu strategaethau eu hunain ar gyfer ICZM.

Un o'r camau cyntaf i'w cymryd wrth gyflwyno strategaeth Ewropeaidd ar y raddfa hon yw annog pob gwlad sy’n aelod i ‘arolygu stoc’. Mae hyn, ar ei lefel mwyaf sylfaenol, yn ffordd o nodi’r sefyllfa sydd ohoni ymhob parth arfordirol.

Yma yn y DU, mae'r ymgynghorwyr annibynnol, Atkins yn ymgymryd â’r gwaith o ‘arolygu stoc’. Disgwylir iddynt gyhoeddi eu canlyniadau ym mis Mawrth 2004. Mae Atkins yn casglu gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys Partneriaeth Arfordirol a Morol Cymru, sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch materion polisi allweddol. Dylai’r gwaith o baratoi strategaethau ICZM i'r DU bara am ryw 18-24 mis pellach, ac mae'n debygol y byddant yn cynnig gweledigaeth gyffredinol ar gyfer arfordir y DU.

Fe fydd strategaeth ICZM leol Fforwm Arfordir Sir Benfro, sydd i'w chyhoeddi ar ddiwedd 2004, yn ystyried barn pob buddgarfan – yn amrywio o sefydliadau strategol i unigolion, o ddatblygwyr diwydiannol a busnesau i ymwelwyr. Golyga hyn fod dull Fforwm Arfordir Sir Benfro o drin yr arfordir yn cynnwys persbectif cyfannol a thymor hir, gyda’r HOLL gyrff gweinyddol perthnasol yn ymwneud ag ef.


 

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.