Amaethyddiaeth a Defnydd o’r Tir yng Nghefn Gwlad.
Ar gyfer amaethyddiaeth y defnyddir y rhan fwyaf o dir gwledig Cymru,
a defnyddir 74% o’r tir yn Sir Benfro ar gyfer ffermio. Glaswelltir
parhaol yw hwn yn bennaf (60%), a thir âr yw 26%. Mae oddeutu
3,500 o ddaliadau yn cyflogi cyfanswm gweithlu o ryw 6,000 o berchnogion
a gweithwyr, ac mae oddeutu 7,000 o swyddi yn y sir yn ymwneud ag amaethyddiaeth
yn gyffredinol naill ai’n uniongyrchol neu mewn cysylltiad â
gwaith ar ffermydd.
Mae llawer o dir mewnol Sir Benfro wedi’i ddynodi yn Ardal Lai
Ffafriol dan Gyfarwyddeb y Gymuned Ewropeaidd, er nad yw’r rhan
fwyaf o’r rhanbarth arfordirol yn rhan o’r ardal hon. Mae
hyn yn awgrymu bod llawer o'r tir ar yr arfordir yn dir o ansawdd da
sy'n gymharol gynhyrchiol. Mae cyfran fawr o’r sir hefyd wedi’i
dynodi yn Ardal Amgylcheddol Sensitif. Hefyd, ceir nifer o ardaloedd
coetirol yn Sir Benfro, a phlanhigfeydd conifferaidd ar uwchdiroedd
Bryniau’r Preselau.
Mae’r gweithgareddau amaethyddol traddodiadol a gweithgareddau
eraill yn y llain arfordirol a’r gefnwlad wedi llunio strwythur
ffisegol a golwg weledol y dirwedd i greu'r brithwaith cyfoethog ac
amrywiol a welwn.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema
yma roedd y canlynol:
• Gall rhai arferion ffermio a diffyg cyffredinol yn y gwaith
cynnal gyfyngu’r mynediad ar rai llwybrau gwledig ac arfordirol.
• Gall llwythi bacteriol a firaol hylifau ffo/gollyngiadau amaethyddol
gyfrannu at yr effaith ar bysgodfeydd pysgod cregyn yn y dyfroedd aberol
ac arfordirol.
• Yn ôl yr amgyffrediad, nid yw datblygiad tir gwledig/arfordirol
bob tro yn cyd-fynd â chyd-destun y dirwedd a’r amgylchedd.
Stephen Alderman, cynrychiolydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)
de Sir Benfro oedd cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad
llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd
yn y cyfarfodydd,
cliciwch yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch
â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.
SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU'R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I'R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.



