Ynni
Mae’r diwydiant cynhyrchu ynni yn Sir Benfro wedi dirywio’n
fawr dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, wrth i ddwy burfa olew a Gorsaf Bwer
olew Penfro gau. Eto, mae’r ddwy burfa sydd ar ôl, Chevron
Texaco a TotalFinaElf, sy'n puro 15% o anghenion olew y DU, yn cyfrannu
dros £100 miliwn y flwyddyn i'r economi lleol ac yn cynnal tua
1,300 o swyddi trwy eu gwaith arferol.
Mae datblygiadau sylweddol ar y gweill ym maes ynni, gan gynnwys Nwy
Naturiol Hylifol (LNG) ac olew a nwy alltraeth. Er bod manteision hyn
yn rhai sylweddol a bod nifer fawr o bobl yn eu cydnabod, mae pris i’w
dalu am bresenoldeb diwydiannau ynni yn y sir. Mae ôl traed ecolegol
y diwydiant yn sylweddol o ran yr ynni mae’n ei ddefnyddio, y
ffaith ei fod yn rhyddhau nwyon 'ty gwydr' a’r posibilrwydd y
bydd yn achosi niwed amgylcheddol.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema
yma roedd y canlynol:
• Mae halogiad y tir ar safleoedd y purfeydd yn rhwystro datblygiad
y safleoedd nes bydd yr halogiad wedi’i glirio.
• Mae plu’r anwedd dwr sy’n cyddwyso uwchben Purfa
Olew Texaco, Penfro, yn lleihau gwerth esthetig y dirwedd.
• Gall sylweddau ffo o safleoedd y diwydiannau ynni achosi llygredd
a chynyddu’r perygl o lifogydd.
• Ceir pryder ynghylch yr amgyffrediad bod yna ddiffyg integreiddio
o fewn dulliau strategol y Parc Cenedlaethol a’r Cyngor Sir o
gynhyrchu a defnyddio ynni a rheoli gwastraff, a diffyg integreiddio
rhwng y dulliau hyn.
David Fletcher o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro oedd
cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn
ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd,
cliciwch
yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â
Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.
SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU
NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG,
FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.



