Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Topic Groups
Fishing & Aquaculture
Image of Fishing Trawler
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pysgodfeydd a Dyframaeth

Bu porthladd Aberdaugleddau yn graidd i ddiwydiant pysgota Sir Benfro ers yr 17eg ganrif. Ar ei anterth, roedd yn gartref i’r fflyd bysgota fwyaf ond pedair ym Mhrydain, yn cynnwys 130 o gychod ac yn cyflogi 4000 o bobl. Fodd bynnag, dirywio fu hanes y diwydiant yn y DU ers y rhyfel, ac mae’r haldiad pysgod blynyddol yn Aberdaugleddau wedi disgyn o’i uchafbwynt, sef 58,000 tunnell ym 1946, i oddeutu 6,000 tunnell ar hyn o bryd (cofnodion Cwmni Dociau Aberdaugleddau).
Mae gan Sir Benfro sector pysgota pwysig gyda’r glannau hefyd. Ym 1999, roedd haldiad pysgod cregyn y sir werth dros £1.6 miliwn, ac yn Sir Benfro y deuai 95% o haldiad cimychiaid/crancod De Cymru i’r lan. Ystyrir hefyd bod hyn yn ychwanegu at amrywiaeth a diwylliant cymunedau arfordirol.
Araf yw datblygiad dyframaeth yn Sir Benfro, er bod yma botensial sylweddol i weithgareddau dyframaeth a moramaeth yn y parth arfordirol ac yn fewndirol.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema yma roedd y canlynol:

• Gall rhai ffurfiau ar bysgota masnachol effeithio yn sylweddol ar yr amgylchedd, gan gynnwys aflonyddu ar swbstradau a’r cymunedau sy’n gysylltiedig â hwy a'u niweidio; dal rhywogaethau na fwriadwyd mo’u targedu.
• Mae disbyddu stociau pysgod a physgod cregyn trwy orbysgota a dulliau eraill yn lleihau bioamrywiaeth ac yn effeithio ar y cydbwysedd ecolegol.
• Nid oes digon o gefnogaeth ariannol i ddatblygu mentrau dyframaeth yn Sir Benfro.

Stephen Thomson o'r fferm bysgod Haven Harvest oedd Cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.

SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.

 

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.