Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Topic Groups
Coastal Protection & Flood Defence
Waves crashing at Amroth
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 


Gwarchod yr Arfordir ac Amddiffyn rhag Llifogydd

Ychydig yn unig o ardaloedd Sir Benfro sydd mewn perygl o erydu a dioddef gan lifogydd. Mae arfordir Sir Benfro yn greigiog ar y cyfan, gyda chalchfaen a thywodfaen yn y de a chreigiau folcanig cyn-Gambriaidd gwrthiannol yn y gorllewin a’r gogledd. Yr ardaloedd ar ddyfroedd isaf yr afonydd lle mae cynhwysedd y sianel wedi'i gyfyngu naill ai'n naturiol neu o ganlyniad i ddatblygiad o wneuthuriad dyn, ac ardaloedd arfordirol isel, agored yw'r rhai sydd â'r perygl mwyaf yn y parth arfordirol. Mae’n bosibl mai’r newidiadau ym mhatrymau'r tywydd ac yng nghyfeiriad y gwynt artraeth sy’n gyfrifol yn rhannol am y newidiadau o ran llifogydd ac erydiad. Gellir priodoli’r golled net yn swm y tywod a’r gwaddodion mewn sawl lle, gan gynnwys ar nifer o draethau sy’n bwysig i dwristiaid, i’r newidiadau hyn.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema yma roedd y canlynol:

• Gallai ddod yn amhosibl yswirio eiddo preifat mewn rhai ardaloedd risg uchel, e.e. Llanrhath a Niwgwl.
• Mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o'r sefyllfa ynghylch cyfrifoldebau i amddiffyn eiddo preifat a chyhoeddus.
• Effaith bosibl Llysiau’r Dial a rhywogaethau dieithr eraill ar fioamrywiaeth ac amddiffynfeydd llifogydd.

Emyr Williams o Gyngor Sir Penfro oedd cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.

SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.

 

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.