Yn ystod Gwanwyn/Haf 2003, fe
gynhaliodd Fforwm Arfordir Sir Benfro gyfres o gyfarfodydd yr 11 Grŵp
Pwnc i nodi’r materion arfordirol yr oedd pobl yn pryderu yn eu
cylch. Rhannwyd hwy yn wahanol ardaloedd ac roeddent yn cwmpasu amrywiaeth
eang o bynciau. Cadeiriwyd pob cyfarfod gan gynrychiolydd â gwybodaeth
arbenigol o’r maes dan sylw, a daeth unigolion a sefydliadau â
diddordeb yn y pynciau hynny i’r cyfarfodydd priodol.
Ers y cychwyn, fe fu Fforwm Arfordir Sir Benfro yn casglu materion o
amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Chyngorfeydd Arfordirol, papurau
newydd lleol, Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Sir Benfro, a Chynlluniau
Gweithredu Amgylcheddol Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Y materion
hyn sydd wedi ffurfio sail trafodaeth yng nghyfarfodydd y Grwpiau Pynciau,
lle cafwyd dadlau ac eglurhad pellach ar y materion. Nid eu datrys ar
y pryd oedd y diben - ond eu hadnabod. Fe fydd trafodaethau pellach
yn cael eu cynnal mewn cyfres o gyfarfodydd yn ystod gaeaf 2003/04.
Roedd cyfarfodydd y Grwpiau Pynciau'n golygu bod Fforwm Arfordir Sir Benfro wedi casglu swm sylweddol o wybodaeth o bob sector yn y gymuned. Mae hyn oll yn cael ei ddwyn ynghyd yn adroddiad CYFLWR/MATERION ar arfordir Sir Benfro, a fydd yn caniatáu i’r Fforwm ganolbwyntio ar feysydd penodol gan fabwysiadu gweledigaeth eglur ar gyfer y dyfodol. Fe fydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer prosiect cyffredinol Fforwm Arfordir Sir Benfro, sef llunio strategaeth ar gyfer datblygiad cynaladwy tymor hir Parth Morol Sir Benfro.
Roedd y cyfarfodydd yn ymwneud â’r pynciau hyn.
Amaethyddiaeth a Defnydd o'rTir
yng Nghefn Gwlad
Llygredd Morol ac Ansawdd y Dŵr
Y Diwydiant, Masnach a Busnes Morol
Cadwraeth Natur a’r Amgylchedd
Ynni
Y Dirwedd a’r Dreftadaeth Ddiwylliannol
Porthladdoedd, Llongau a Thrafnidiaeth
Twristiaeth, Hamdden a Mynediad
Pysgodfeydd a Dyframaeth
Gwarchod yr Arfordir ac Amddiffyn rhag Llifogydd
Cymunedau ac Addysg



