Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Topic Groups
Landscape & Cultural Heritage
Carew Castle Photograph
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

Y Dirwedd a’r Dreftadaeth Ddiwylliannol

Yn ôl adroddiadau, mae gan Sir Benfro fwy o amrywiaeth o nodweddion daearegol a golygfeydd â thirffurfiau nag unrhyw ardal debyg o’r un faint yn Ynysoedd Prydain. Mae’r amrywiaeth yng nghymeriad y dirwedd rhwng gogledd a de’r sir yn adlewyrchu gwahanol arferion wrth anheddu a defnyddio’r tir dros y canrifoedd.
Mae Sir Benfro hefyd yn gartref i’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol ei natur yn y DU – yn wir, dynodwyd ef yn bennaf oherwydd yr arfordir ysblennydd. Mae’n estyn am 240km ar hyd y rhan fwyaf o arfordir Sir Benfro, gan gwmpasu aber Daugleddau a Bryniau’r Preselau.
Cofnodir naw ardal neu safle yn Sir Benfro yn rhai o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol neu Arbennig yng Nghymru ac mae nifer fawr wedi’u dynodi yn safleoedd â phwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol. Yn eu plith mae saith Ardal Cadwraeth Arbennig, tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Gwarchodfa Natur Forol, chwe Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a 75 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Gorwedd oddeutu 40% o arfordir Sir Benfro (ar wahân i Aberdaugleddau a Daugleddau) o fewn safleoedd sy’n destun adolygiad Cadwraeth Daearegol. Mae yna 50 safle o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema yma roedd y canlynol:

• Ceir gostyngiad yn nifer adnoddau archeoleg forol /niwed i adnoddau archeoleg forol oherwydd carthu, treillio, gosod pibellau ac ati.
• Mae prosesau naturiol, e.e. erydiad, yn achosi gostyngiad yn nifer safleoedd a deunyddiau archeolegol / niwed i safleoedd a deunyddiau archeolegol.
• Mae perygl i geyrydd pentir gwympo i’r môr.

Jonathan Hughes o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.

SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.