Y Diwydiant, Masnach a Busnes Morol
Mae pobl Sir Benfro wedi dibynnu llawer ar y môr am eu masnach.
Oherwydd hyn, mae llawer o weithgareddau diwydiannol y sir wedi mynd
rhagddynt mewn ardaloedd arfordirol sy’n gyfleus i lwybrau masnach.
Mae Sir Benfro yn lleoliad delfrydol i fasnach. Mae ganddi ffyrdd sy’n
rhan o Rwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd y Gymuned Ewropeaidd (yr A40
a’r A477), porthladdoedd allweddol Aberdaugleddau, Doc Penfro
ac Abergwaun, dwy derfynfa fferi yn Noc Penfro ac Abergwaun, cyfleusterau
maes awyr yn Llwyn Helyg a rhwydwaith y rheilffordd.
Ond bregus yw economi Sir Benfro, ac mae’n dibynnu ar sail economaidd
gul sy’n cynnwys twristiaeth, amaethyddiaeth, pysgota a gwasanaethau'r
sector cyhoeddus. Dwyseir y breuder hwn oherwydd bod y sir mor ymylol,
oherwydd bod ei hadnoddau economaidd a dynol yn cael eu colli i ardaloedd
eraill, ac oherwydd ei dibyniaeth ar y marchnadoedd twristiaeth/gwyliau
cyfnewidiol.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema
yma roedd y canlynol:
• Mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus wael yn y sir yn cyfyngu
ar symudedd y gweithlu.
• Gall sylweddau ffo o safleoedd trefol a diwydiannol achosi llygredd
a chynyddu’r perygl o lifogydd.
• Mae diffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r ffeithiau ynghylch diwydiant
a masnach forol yn creu awyrgylch lle ceir drwgdybiaeth, amheuaeth ac
ofn, ac nid yw hyn yn helpu’r sefyllfa.
Andrew Brown o Gwmni Dociau Aberdaugleddau oedd cadeirydd y Grwp Pwnc
hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys
yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch
yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â
Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.
SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU
NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG,
FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.



