Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Topic Groups
Nature Conservation & Environment
Puffin Bird
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cadwraeth Natur a’r Amgylchedd

Bendithiwyd Sir Benfro ag ansawdd ei hamgylchedd a'i bywyd gwyllt. Gorwedd yr arfordir, sy'n 259km o hyd, o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac mae ynddo’r gyfradd uchaf o safleoedd amgylcheddol dan warchodaeth yn Ewrop.
Yr amgylchedd hwn o safon uchel, a’r amrywiaeth gyfoethog yn ei fywyd gwyllt, yw prif adnodd gwaith a budd cymdeithasol-economaidd i'r sir trwy dwristiaeth a gweithgareddau hamdden.
Mae Sir Benfro yn bwysig yn rhyngwladol oherwydd llawer o’i chynefinoedd arfordirol, morol ac iseldirol, ac mae hefyd yn bwysig yn genedlaethol oherwydd cynefinoedd eraill, e.e. ei choetiroedd derw hynafol lled-naturiol.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema yma roedd y canlynol:

• Effaith amgylcheddol sbwriel ar y traeth.
• Gall cynlluniau amddiffyn yr arfordir sy'n amgylcheddol amhriodol arwain at golli cynefin a bioamrywiaeth.
• Gall carthion a gollyngiadau eraill i mewn i’r afonydd a dyfroedd yr arfordir effeithio’n sylweddol ar ecosystemau morol ac aberol ac ar fioamrywiaeth.

Robin Crump, cynghorydd amgylcheddol annibynnol, oedd cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.


SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.

 

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.