Llygredd
Morol ac Ansawdd y Dwr
Mae ansawdd amgylcheddol arfordir Sir Benfro yn well na'r cyfartaledd,
gyda mwy o Wobrau Glan Môr nag unrhyw sir arall – mae ganddi
naw o draethau Baner Las a naw o draethau gwobr yr Arfordir Gwyrdd.
Nododd arolwg yn 2002 mai sbwriel a malurion eraill oedd y mater amgylcheddol
a oedd yn achosi’r pryder mwyaf i drigolion Sir Benfro. Yn ogystal
â bod yn hyll ac yn beryglus i iechyd y cyhoedd, gall sbwriel
fod yn beryglus i fywyd gwyllt yn y môr ac ar y tir.
Mae Sir Benfro’n dueddol o ddioddef gan effaith llawer o bethau
sy'n gallu llygru'r tir a'r môr. Mae yma lefel uchel o weithgareddau
diwydiannol a theithiau gan longau, ac mae trychinebau olew mawr y Sea
Empress ym 1996 a’r Christos Bitas ym 1978 yn celu’r problemau
pob dydd sy’n gysylltiedig â gollwng olew yn ddamweiniol
ac yn achlysurol i'r amgylchedd morol.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema
yma roedd y canlynol:
• Dylid ailgylchu carthion i leihau problemau a chodi refeniw
ar gyfer gwelliannau pellach.
• Mae offer pysgota masnach a hamdden sydd wedi eu colli neu eu
taflu o’r neilltu yn beryglus i bobl a bywyd gwyllt, ac maent
yn edrych yn hyll.
• Mae ysgarthion cwn ar y traethau, yn enwedig yn ardaloedd Newport,
Dyfrffordd Aberdaugleddau a’r Daugleddau, Freshwater East a’r
Parrog (Gwdig) yn niwsans cyhoeddus ac yn beryglus i iechyd.
Ged Davies o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru oedd cadeirydd y Grwp Pwnc
hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys
yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch
yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â
Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.
SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU
NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG,
FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.



