Pembrokeshire Coastal Forum
Link to Home Page Design only Design only Link to Welsh Version
   
Topic Groups
Ports, Shipping & Transport
Irish Ferry
       
 




 
 

 

 

 

 

 

 

 


Porthladdoedd, Llongau a Thrafnidiaeth

Mae Sir Benfro mewn man strategol ar ymyl orllewinol tir mawr y DU â dwr clir rhyngddi ac Iwerddon/De America.
Aberdaugleddau yw prif borthladd Sir Benfro. Porthladd Ymddiriedolaeth yw hwn, sydd hefyd yn cynnwys Porthladd Penfro yn Noc Penfro. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio’r Porthladd mwyaf yng Nghymru, a’r mwyaf ond pedwar yn y DU. Maent yn trin oddeutu 10,000 o deithiau llongau a mwy na 34 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn. Yn Abergwaun/Gwdig ar arfordir gogledd Sir Benfro mae’r prif Borthladd arall.
Mae Sir Benfro’n dibynnu’n helaeth ar system cefnffyrdd Cymru. Mae hon yn cysylltu San Clêr, Hwlffordd ac Abergwaun (A40), San Clêr a Doc Penfro (A477), Hwlffordd ac Aberdaugleddau (A4076) ac Abergwaun ac Aberteifi (A487).
Nid yw gwasanaeth rheilffordd y brif lein yn cyrraedd ond cyn belled ag Abertawe. Mae gwasanaeth "Alphaline" yn cysylltu Abertawe â Sir Benfro trwy Gaerfyrddin.
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema yma roedd y canlynol:

• Gall amgyffrediad o risg llygredd a’r ddelwedd ddiwydiannol atal twristiaeth.
• Mae llongau sy’n gollwng sbwriel/gwastraff yn anghyfreithlon yn gyson yn arwain at effeithiau amgylcheddol tymor hir.
• Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth y sector i gymunedau lleol yn wael.
• Mae angen gwella’r gwasanaeth rheilffordd i Sir Benfro, oddi yma ac o fewn y sir yn sylweddol i gwtogi ar yr amgyffrediad bod y sir ar yr ymylon ac i leihau’r ddibyniaeth ar geir.

Capten Mark Andrews o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau oedd cadeirydd y Grwp Pwnc hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch yma.
Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.

SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG, FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.

  design only              
 

Map o'r Wefan | Fersiwn Testun yn Unig | Cyfreithiol

Ffôn: 01646 696174 Ffacs: 01646 696125 E-bost: pcf@mhpa.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y wefan hon, anfonwch e-bost i info@evolvement.net

©2003-2004 Fforwm Arfordir Sir Benfro. Cedwir pob hawl.