Twristiaeth, Hamdden
a Mynediad
Twristiaeth yw diwydiant a chyflogwr mwyaf Sir Benfro. Mae’n werth
£272 miliwn i economi’r Sir. Seilir delwedd gref Sir Benfro
yn y maes hwn ar ei hamgylchedd naturiol, ei hamgylchedd adeiledig a’i
hanes diwylliannol. Ac, er bod tirwedd Sir Benfro yn amrywiol ac yn
cynnwys mynyddoedd a chestyll, ei phrif atyniad ym meddwl y rhan fwyaf
ohonom yw'r arfordir ysblennydd a digyffwrdd – ffaith y mae’r
CDU ar y cyd ar gyfer 2000-2016 (Cyngor Sir Benfro/Awdurdod Parc Cenedlaethol
Arfordir Sir Benfro) yn ei gydnabod.
SMEs yw’r rhan fwyaf o fusnesau twristiaeth yn Sir Benfro. Ymhlith
y meysydd twf yn y diwydiant twristiaeth yn gyffredinol mae ymwelwyr
sy’n dod am seibiant byr a galw cynyddol am dwristiaeth antur
a mordeithiau bywyd gwyllt. Mae Bwrdd Croeso Cymru, sef y corff sy’n
rheoli twristiaeth yng Nghymru yn gyffredinol, wedi comisiynu nifer
o astudiaethau ac wedi cynhyrchu dogfennau strategaeth sy'n cwmpasu
rhai o'r prif sectorau gweithgareddau. Yn eu plith mae Neidio i’r
Cyfrwy – Strategaeth Farchogaeth i Gymru a Newid Gêr –
Strategaeth Twristiaeth Seiclo i Gymru 2002 – 2007
Ymhlith y materion a nodwyd yng nghyfarfodydd y grwp pwnc ar y thema
yma roedd y canlynol:
• Os ceir gwared ar elifiant (carthion) yn amhriodol, ac os bydd
yna fathau eraill o lygredd o longau, fe all hyn effeithio yn andwyol
ar yr amgylchedd morol ac ar fioamrywiaeth.
• Nid yw’r cyfleusterau angori a docio a’r cyfleusterau
ar y glannau yn y sir i gychod hamdden yn ddigonol.
• Nid oes digon o ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd
arfordirol i annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth breifat yn llai
helaeth.
David Reed o Fenter Busnes Sir Benfro (PBI) oedd cadeirydd y Grwp Pwnc
hwn. I lawrlwytho adroddiad llawn ar y pwnc hwn ar ffurf PDF, gan gynnwys
yr holl faterion a nodwyd yn y cyfarfodydd, cliciwch
yma. Os hoffech dderbyn y ddogfen yn Gymraeg, cysylltwch â
Fforwm Arfordir Sir Benfro ar 01646 696174.
SYLWCH Y BYDD ANGEN DIWEDDARU’R PAPURAU HYN YN RHEOLAIDD I ADLEWYRCHU
NEWIDIADAU A FYDD YN DIGWYDD A GWYBODAETH NEWYDD A DDAW I’R AMLWG,
FELLY RYDYM YN CROESAWU UNRHYW ADBORTH AR EU CYNNWYS.



