RHEOLAETH INTEGREDIG AR BARTHAU ARFORDIROL (ICZM) - Y FFEITHIAU
Bydd ICZM yn mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth, cyfreithiau amhriodol ac anghydlynus, methiant i gynnwys budd-ddeiliaid a diffyg cydlyniad rhwng cyrff gweinyddol.
EGWYDDORION RHEOLAETH INTEGREDIG AR BARTHAU ARFORDIROL.
"Dylai'r Gwledydd sy’n Aelodau fynd ati i fabwysiadu egwyddorion rheolaeth dda ar barthau arfordirol, fel y mae Rhaglen Arddangos y Comisiwn ar Reolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol wedi'u nodi, sef y dylid seilio rheolaeth parthau arfordirol ar:
1) Safbwynt cyfannol ac eang (Thematig a Daearyddol)
2) Safbwynt tymor hir
3) Rheolaeth addasol (ymateb i wybodaeth ac amodau newydd) yn ystod
proses raddol
4) Penodoldeb lleol
5) Gweithio gyda phrosesau naturiol
6) Cynllunio cyfranogol
7) Cefnogaeth ac ymwneud yr holl gyrff gweinyddol perthnasol
8) Defnyddio cyfuniad o offerynnau."
[Cynnig ar gyfer Argymhelliad
y Cyngor a’r Senedd Ewropeaidd ynglŷn â gweithredu
ICZM yn Ewrop COM (2000) 545 terfynol. Y Comisiwn Ewropeaidd, Brwsel.]



