Mae Cymru, a gweddill y DU wedi gosod targed i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ond beth mae hynny’n ei olygu i ni yn sir Benfro? Yn syml, rydym yn cyrraedd sero net pan nad yw faint o garbon deuocsid a gynhyrchwn yn ddim mwy na’r swm a dynnwn.

Fel gweddill y DU, mae Cymru ar hyn o bryd yn rhyddhau gormod o nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid, methan, ac ocsid nitraidd i’r atmosffer. Gwyddom mai’r achos dynol mwyaf o bell ffordd am nwyon tŷ gwydr yw cynhyrchu ynni – ynni ar gyfer diwydiant, ynni a ddefnyddir i wresogi ein cartrefi a’n hadeiladau, a’r ynni a ddefnyddiwn i bweru ein cerbydau.

Gall newid i fathau glanach o ynni fel gwynt, llanw a thonnau ein helpu i gyrraedd sero net, ac mae gan Sir Benfro ran bwysig i’w chwarae yn y trawsnewid. Mae gan y Môr Celtaidd, oddi ar arfordir Cymru, y potensial i bweru miliynau o gartrefi drwy ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a bydd eu datblygiad yn creu miloedd o swyddi newydd i bobl yr ardal. Gan weithio ochr yn ochr â diwydiannau sydd eisoes yn bodoli, rydym yn wynebu cyfle enfawr i ddod yn arloeswyr ynni adnewyddadwy, ac arloeswyr mewn technoleg. Mae ein porthladdoedd yn paratoi; uwchraddio ac ehangu, a bydd y Celtic Freeport arfaethedig yn ei gwneud yn haws i fusnesau fuddsoddi a chefnogi’n ymarferol y diwydiant gwynt ar y môr fel y bo’r angen.

Mae miloedd o yrfaoedd newydd ar y gweill – o gemegwyr, gwyddonwyr a pheirianwyr, i blymwyr, peilotiaid, rheolwyr prosiect a phopeth yn y canol. Nawr yw’r amser i ddechrau meddwl am eich dyfodol – gallai eich gyrfa fod yn agosach nag yr ydych yn ei feddwl. Cynlluniwyd y wefan hon i roi’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i gymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa mewn ynni adnewyddadwy.

Pam aros?

Gyrfaoedd

Plymiwch i fyd o gyfleoedd a darganfyddwch sut y gallwch chi gyfrannu at y chwyldro ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro.

Adnoddau ar gyfer Ysgolion

Datglowch drysorfa o ddeunyddiau addysgol a gynlluniwyd i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr yn nyfodol cynaliadwy ynni.

Adnoddau ar gyfer Eich Cymuned

Cysylltwch â rhwydwaith o wybodaeth, cefnogaeth, a mentrau sy’n dod â’n cymuned ynghyd i lunio Sir Benfro wyrddach.

Cysylltwch â ni

Oes gennych chi gwestiynau neu syniadau? Rydyn ni yma i’ch helpu chi i lywio’ch llwybr yn y sector ynni adnewyddadwy. Cysylltwch â ni heddiw.