Adnoddau ar gyfer Eich Cymuned

Gyda 1200km o arfordir garw, yn darparu hinsawdd gwynt a thonnau ynni uchel a’r amrediad llanw ail uchaf yn y byd, mae Cymru’n gartref i adnodd ynni adnewyddadwy cyfoethog.

Mae gan ddyfroedd Cymru botensial aruthrol o ran cynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy, ac yn Sir Benfro rydym eisoes yn gweld datblygiadau cyffrous yn y sector – mae cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd wedi hen ddechrau…ac mae Porthladd Aberdaugleddau yn symud tuag at statws porth rhydd; offeryn pwerus i hybu’r economi leol. 

Yn y cyfeiriadur isod, gallwch ddysgu mwy am y sefydliadau niferus sydd eisoes yn gweithio tuag at ddyfodol ynni Sir Benfro.

Bydd sicrhau bod ein cymunedau’n cael gwybod am y cyfleoedd niferus y mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy morol yn eu cyflwyno ac yn gallu manteisio arnynt yn hanfodol i’w lwyddiant yma yn Sir Benfro.

Ond mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod y risgiau – a fydd y prosiectau hyn yn goresgyn y rhwystrau y mae’n rhaid iddynt eu hwynebu a bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd? A fydd ein cymunedau lleol yn gweld y manteision a’r gwobrau? A fydd unrhyw effeithiau digroeso eraill?

Gyda’n gilydd fel aelodau o’r gymuned, sefydliadau a busnesau lleol, mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer y buddion, lleihau’r risgiau lle bo’n bosibl a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall ein cymunedau ffynnu a bod ein harfordir yn gallu aros yn lle arbennig i fywyd gwyllt.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gydag offer ac adnoddau i chi eu rhannu gyda’ch cymunedau fel y gallwn harneisio’r cyfle hwn gyda’n gilydd a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy, llewyrchus i Sir Benfro.

Sefydliadau sy'n gweithio tuag at ynni yn y dyfodol yn Sir Benfro

Dolenni Defnyddiol:

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Prosiect hyfforddi Sgiliau a Thalentau

Cyngor Sir Penfro

Datgarboneiddio a’r Argyfwng Natur

Cyngor Sir Penfro

Cynllun Prosiect: Datgarboneiddio a Chynllun Sero Net

Llywodraeth Cymru

Cynllun Strategol Sero Net

Cartref

Ewch yn ôl i dudalen gartref Gyrfaoedd Ynni’r Dyfodol – eich man cychwyn ar gyfer gyrfa fwy disglair a chynaliadwy mewn ynni adnewyddadwy.

Gyrfaoedd

Plymiwch i fyd o gyfleoedd a darganfyddwch sut y gallwch chi gyfrannu at y chwyldro ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro.

Adnoddau ar gyfer Ysgolion

Datglowch drysorfa o ddeunyddiau addysgol a gynlluniwyd i ysbrydoli ac ennyn diddordeb myfyrwyr yn nyfodol cynaliadwy ynni.

Cysylltwch â ni

Oes gennych chi gwestiynau neu syniadau? Rydyn ni yma i’ch helpu chi i lywio’ch llwybr yn y sector ynni adnewyddadwy. Cysylltwch â ni heddiw.