Plymiwch i’r rheng flaen o ran arloesi morol gyda’r Ardal Profi Ynni’r Môr (META)

Rydym wrth ein bodd yn estyn gwahoddiad i grwpiau dysgu o Sir Benfro ddefnyddio ein cyfleuster profi o safon diwydiant. Yn ein hymdrech i feithrin amgylchedd dysgu cydweithredol a hybu’r ymchwil mewn technolegau morol, rydym yn lansio cystadleuaeth sy’n agored i ddysgwyr Sir Benfro o bob oed!

Rydym yn eich annog i gyflwyno eich syniadau dyfeisgar ar draws tri phwnc hollbwysig: arolwg tanddwr, sefydlogrwydd platfformau, a chreu cynefinoedd morol. Dyma gyfle heb ei ail i bum grŵp o ddysgwyr ddod â’u cysyniadau’n fyw a chyfrannu at faes arloesol ynni’r môr. Bachwch ar y cyfle hwn i ryngweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, cael mewnwelediad ymarferol, a chreu tonnau yn y sector morol!

Yr Ardal Profi Ynni’r Môr (META) yw’r cyfleuster profi dŵr agored cenedlaethol ar gyfer technoleg ynni’r môr.

Mae profi yn hanfodol i ddatblygiad ynni’r môr. Datblygodd Fforwm Arfordir Sir Benfro yr ardal profi er mwyn galluogi ymchwilwyr i arbrofi gyda syniadau newydd yn y môr. Mae’n cynnwys sawl ardal o ddŵr yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.

Nid dim ond carreg gamu ar gyfer dyluniadau dyfeisiau ynni’r llanw neu ynni’r tonnau newydd yw’r ardal profi. Mae hefyd yn caniatáu profi rhannau, deunyddiau neu offer sydd eu hangen ar y diwydiant. Daw ymchwilwyr o bob rhan o’r byd i ddefnyddio META. Mae’n agos at y porthladd, a’r cwmnïau sy’n gallu adeiladu’r offer sydd ei angen ar gyfer y gwahanol brofion.

Rydym bellach yn gallu cynnig y cyfleuster profi safonol hwn ar gyfer y diwydiant i bum grŵp o ddysgwyr o Sir Benfro!

A allech chi fod yn rhan o Ddiwydiant Ynni’r Dyfodol yn Sir Benfro?

Cystadleuaeth

Rydyn ni eisiau clywed am eich syniadau gorau i ddatrys un o’r heriau hyn!

Anfonwch gynnig atom ar gyfer arbrawf sy’n ymchwilio i un o’r tri phwnc canlynol:

Arolwg Tanddwr

Ar hyn o bryd mae gan ein Cerbyd a Weithredir o Bell (ROV) Tanddwr gamera i archwilio offer o dan y dŵr.

Dyluniwch atodiad ar gyfer ein ROV a fydd yn gwella ei waith arolygu.

Sefydlogrwydd Llwyfan

Bydd llwyfannau gwynt arnofiol ar y môr yn cael eu defnyddio i gynnal tyrbinau gwynt yn nyfroedd dwfn y Môr Celtaidd. Fe’u cedwir yn eu lle gyda llinellau cryf wedi’u hangori i wely’r môr.

Dyluniwch nodwedd y gellid ei hychwanegu at lwyfan i wella ei sefydlogrwydd yn y tonnau.

Mae gennym 2 fwi bach sy’n mesur symudiad, gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich dyluniad profi.

Creu Cynefin Morol

Dyluniwch gynefin micro y gellid ei gysylltu â dyfais neu gebl ynni’r môr i leihau effaith dyfeisiau ar yr amgylchedd.

Sut byddwch chi’n mesur llwyddiant eich cynefin a’i effaith?

Sut i wneud cais:

Dyddiad cau:
Dydd Llun, 11eg Rhagfyr  

Fformat:
Cynigion mewn fformat A3 ochr sengl (cyflwynwch yn ddigidol) i tim.brew@pembrokeshirecoastalforum.org.uk

Derbynnir ceisiadau gan grwpiau bach, dosbarthiadau cyfan, clybiau ar ôl ysgol neu grwpiau
ysgol-cartref.

Dylai eich Cynnig gynnwys:

  • Beth ydych chi’n gobeithio ei ddarganfod?
  • Eich syniadau ar sut olwg fydd ar y prawf.
  • Sut byddwch chi’n gwneud y prawf?
  • Beth fydd eich canlyniadau yn ei ddweud wrthych?

Bydd pob grŵp yn derbyn:

  • £200 tuag at gost eich arbrofion.
  • Cyngor proffesiynol gan Offshore Renewable Energy Catapult.
  • Rhoi eich arbrawf yn yr ardal profi.
  • Gweithdy yn yr ysgol i wneud y mwyaf o’ch data.

Bydd ein tîm gweithrediadau META yn sicrhau bod y prawf yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn unol â rheoliadau.

Bydd grwpiau’n cael eu dewis i gynnal eu harbrawf yn ystod tymor y gwanwyn 2024 gyda chefnogaeth gan META a’n partneriaid.

Mae’r sector ynni yn Sir Benfro

Mae’r sector ynni yn Sir Benfro yn newid gyda datblygiad:

  • Ynni’r llanw ac ynni’r tonnau
  • Gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd
  • Tanwydd hydrogen

Erbyn 2040, nod y sector yw creu miloedd o yrfaoedd newydd, cyffrous â chyflogau da, cymwysterau STEM fydd y pasbort i ymuno â’r chwyldro ynni.

Cefnogwyr Prosiect

Ardal Profi Ynni’r Môr (META)

Er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a diogelwch defnyddwyr eraill y môr mae angen caniatâd cyn rhoi offer arbrofol yn y dŵr.

Mae gan META gymeradwyaeth i wneud arbrofion yn ymwneud ag ynni’r môr yn y môr. Mae hyn yn cefnogi datblygiad y sector ac yn helpu i ddod â busnesau ynni’r môr newydd i Sir Benfro.

Mae META yn cael ei redeg gan Ynni’r Môr Cymru, rhaglen sy’n rhan o Gwmni Buddiannau Cymunedol Fforwm Arfordir Sir Benfro sy’n cefnogi datblygiad cynaliadwy ynni adnewyddadwy morol.

https://www.meta.wales/  

Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni’r Môr

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni’r Môr yn Noc Penfro yn darparu cymorth ar gyfer arloesi a datblygu gan gysylltu busnesau ag ymchwil arbenigol. Mae MEECE yn rhan o’r ORE Catapult. Fel prif ganolfan arloesi technoleg ac ymchwil y DU ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr, mae ORE Catapult yn gweithio’n agos gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf arloesol yn ein sector. Mae’r holl dechnolegau a syniadau newydd y mae’r cwmnïau hyn yn eu datblygu yn hollbwysig i leihau cost ein trydan, a chynyddu ein sicrwydd ynni, ac mae pynciau STEM yn sail i’w holl waith. ORE Catapult: Sicrhau Twf y DU o’r Chwyldro Ynni Adnewyddadwy – YouTube

Porthladd Penfro

Mae adeiladau Porthladd Penfro a’r cei yn cael eu huwchraddio ar hyn o bryd i chwarae rhan bwysig yn natblygiad y sector ynni adnewyddadwy. Gweithredir Porthladd Penfro gan Borthladd Aberdaugleddau.

https://www.pembrokeport.com/ 

Porthladd Aberdaugleddau

Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borthladd Ymddiriedolaeth sy’n ceisio dod â manteision cynaliadwy i’r cymunedau cyfagos. Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan o’r Celtic Freeport sy’n ceisio dod â buddsoddiad i’r ddyfrffordd a chefnogi’r newid i ynni glân.

https://www.mhpa.co.uk/ 

Pŵer y Môr Celtaidd

Gwaith ar gyfer y dyfodol yw Pŵer y Môr Celtaidd a gaiff ei bweru gan ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Pŵer y Môr Celtaidd yn rheoli Parth Arddangos Sir Benfro gan ddatblygu ffyrdd arloesol o ddod â’r ynni sy’n cael ei harneisio ar y môr i’r mannau lle mae ei angen ar dir.

https://celticseapower.co.uk/ 

Canolfan Darwin

Nod Canolfan Darwin yw ennyn diddordeb a brwdfrydedd pobl ifanc a chymunedau mewn pynciau STEM trwy deithiau maes a gweithdai ymarferol, o chwilio pyllau glan môr i ffiseg niwclear ddamcaniaethol. Mae’r elusen yn codi dyheadau trwy agor mynediad i arbenigwyr o fewn y diwydiant STEM ac yn amlygu gyrfaoedd posibl sydd ar gael i bobl ifanc Sir Benfro.

https://darwincentre.com/ 

Coleg Sir Benfro

Coleg Sir Benfro, sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd, yw prif ddarparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 y sir. Gyda champws modern, mae’n cynnig ystod eang o gyrsiau, o Safon Uwch i brentisiaethau a chyrsiau lefel uwch, sy’n darparu ar gyfer pobl ifanc ac oedolion. Mae gan y coleg sydd gyda thua 2,000 o ddysgwyr amser llawn a 12,500 o ddysgwyr rhan-amser, gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys mannau astudio, ystafelloedd TG, a chanolfannau arbenigol.

https://www.pembrokeshire.ac.uk/ 

Ein Cyllidwyr

Ni fyddai’r prosiect hwn gan Fforwm Arfordir Sir Benfro yn bosibl heb gefnogaeth ein cyllidwyr a chyngor gan ein cefnogwyr.
Mae cystadleuaeth y dysgwr META yn seiliedig ar raglen Sgiliau a Thalent bargen Ddinas Bae Abertawe a ariennir ar y cyd gan lywodraethau Cymru a’r DU ynghyd â buddsoddiad o’r sector preifat.