Pembrokeshire Coastal Forum – Impact Report 2023-24

Sustainable coast and ocean for future generations.

As a stakeholder support organisation, the PCF team is proud of our work connecting communities, businesses, organisations and decision-makers. We hope you enjoy reading about our latest impacts and plans! 

Our Mission: To inspire, collaborate and deliver solutions for sustainable coastal communities. 

PCF delivers solutions for sustainable coastal communities through a diverse range of programme areas, projects and activities centred around the following key coastal challenges:

  • Marine Renewable Energy
  • Climate Adaptation
  • Coastal Education & Skills
  • Responsible Recreation
  • Water Quality and Land Use
  • Aquaculture

This report highlights our achievements over the past year, showcasing the collective efforts of our partners, stakeholders, and community members. From advancing marine energy technologies and nurturing a culture of responsible recreation to engaging in impactful education programmes and pioneering water quality improvements, our projects reflect the diverse challenges and opportunities that coastal communities face.

We invite you to explore the stories and successes within these pages, illustrating PCF’s commitment to innovation, collaboration, and sustainability. Together, we are building a future where communities and nature thrive, aligned with our vision of a sustainable coast and ocean for future generations.

Thank you for your support and interest in our work. Let’s continue to make a difference for our coastal environments and communities.

Key Highlights

Download the Key Highlights from our Impact Report below…

Fforwm Arfordir Sir Benfro – Adroddiad Effaith 2023-24

Arfordir a chefnfor cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fel sefydliad cymorth rhanddeiliaid, mae tîm PCF yn falch o’n gwaith yn cysylltu cymunedau, busnesau, sefydliadau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen am ein heffeithiau a’n cynlluniau diweddaraf! 


Ein Cenhadaeth
:
Ysbrydoli, cydweithio a darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy.

Mae PCF yn darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy trwy ystod amrywiol o feysydd rhaglen, prosiectau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr heriau arfordirol allweddol a ganlyn:

  • Ynni Adnewyddadwy Morol

  • Ymaddasu i Newid Hinsawdd

  • Addysg a Sgiliau Arfordirol

  • Hamdden Cyfrifol

  • Ansawdd Dŵr a Defnydd Tir

  • Dyframaethu

Mae’r adroddiad hwn yn amlygu ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan arddangos ymdrechion ar y cyd ein partneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned. O ddatblygu technolegau ynni’r môr a meithrin diwylliant o hamdden cyfrifol i gymryd rhan mewn rhaglenni addysg effeithiol a gwelliannau arloesol i ansawdd dŵr, mae ein prosiectau’n adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd amrywiol y mae cymunedau arfordirol yn eu hwynebu.

Rydym yn eich gwahodd i archwilio’r straeon a’r llwyddiannau o fewn y tudalennau hyn, gan ddangos ymrwymiad PCF i arloesi, cydweithio a chynaliadwyedd. Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol lle mae cymunedau a natur yn ffynnu, yn unol â’n gweledigaeth o arfordir a chefnfor cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Diolch am eich cefnogaeth a’ch diddordeb yn ein gwaith. Gadewch i ni barhau i wneud gwahaniaeth i’n hamgylcheddau a’n cymunedau arfordirol.

Uchafbwyntiau Allweddol

Lawrlwythwch yr Uchafbwyntiau o’n Hadroddiad Effaith isod…