Blog Post by Alec Denny, Project Coordinator

For over 20 years, Pembrokeshire Coastal Forum (PCF) has facilitated the Pembrokeshire Marine Code, bringing stakeholders together to develop voluntary codes of conduct aimed at limiting disturbance and protecting marine wildlife from increasing pressures due to recreational and coastal activities.

This initiative focuses on promoting responsible marine recreation and environmental education, ensuring that both people and wildlife can safely share the coast. 

2024 Review

The Pembrokeshire Marine Code review process united key representatives from organisations with conservation duties, management responsibilities, and commercial activities in marine habitats around Pembrokeshire. 

Throughout the year, the project has undertaken a staged review and updated the:

  • Pembrokeshire Marine Codes of Conduct
  • Agreed access restrictions
  • Marine Code engagement materials and signage 

With increasing recreational participation along our coastline and growing populations of protected marine wildlife, such as seals and seabirds, this update is vital. The guidance enables coastal users to enjoy the area responsibly while minimising disturbance to these internationally important wildlife species. This approach ultimately protects the natural resources integral to the coastal experience and supports ongoing efforts for nature’s recovery.

A Collaborative Effort

The Pembrokeshire Marine Code (PMC) is a voluntary approach designed for practical application. PCF has engaged all key stakeholders, including wildlife tour operators, commercial adventure providers, and conservationists, to ensure the code is both relevant and implementable. This collaborative approach builds consensus, making the code effective through stakeholder engagement, self-regulation, and a sense of ownership. 

Chris Lawrence, a Senior Conservation Officer at Natural Resources Wales (NRW) describes the process:

As Senior Conservation Officer for NRW, I see first-hand the positive impact the Pembrokeshire Marine Code has on protecting our delicate coastal ecosystems. By setting clear guidelines, it helps both visitors and operators alike understand how to enjoy Pembrokeshire’s marine environment while preserving its biodiversity for future generations.

The updates make the Marine Code more accessible and user-friendly, with resources available both online and on-site via beachside noticeboards and the Wales Coast Explorer App. These tools empower everyone to understand and follow the guidance, helping preserve the area’s unique natural beauty. 

Thank You!

Our sincere thanks to the project stakeholders for their informed contributions, continuing the co-development that has shaped the Pembrokeshire Marine Code’s success over the past 20 years. Together, we’ve crafted more effective and practical messaging for an already impactful code.

Continuing Our Work

PCF has recently launched an updated Pembrokeshire Marine Code website, featuring:

  • Downloadable codes of conduct
  • Interactive maps showing access restrictions and downloadable resources

An upcoming social media campaign will share these enhanced resources, highlighting seasonal wildlife activity to promote informed recreation.

We’re also building ongoing relationships with stakeholders and media outlets to spread awareness of the updated Pembrokeshire Marine Code information. 

How You Can Help

Get the most out of your coastal visits by exploring the updated code:

Help us spread the word by sharing the Pembrokeshire Marine Code advice and following us on social media @PCFCiC 😊

This project is led by PCF’s sustainable recreation team, with support from the Nature Networks Partnership and funding from the Welsh Government’s Local Places for Nature: Marine and Coastal Capacity Scheme, administered by Wales Council for Voluntary Action (WCVA).

‘Diolch’ i’r rhai a gymerodd ran ym mhrosiect adolygu Cod Morol Sir Benfro

Postiad Blog gan Alec Denny, Gydlynydd y Prosiect

Ers dros 20 mlynedd, mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) wedi hwyluso Cod Morol Sir Benfro, gan ddod â rhanddeiliaid ynghyd i ddatblygu codau ymddygiad gwirfoddol gyda’r nod o cyfyngu ar aflonyddwch a diogelu bywyd gwyllt y môr rhag pwysau cynyddol oherwydd gweithgareddau hamdden ac arfordirol.

Mae’r fenter hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo hamdden morol cyfrifol ac addysg amgylcheddol, gan sicrhau bod pobl a bywyd gwyllt yn gallu rhannu’r arfordir yn ddiogel.

Adolygiad 2024

Unodd proses adolygu Cod Morol Sir Benfro gynrychiolwyr allweddol o sefydliadau sydd â dyletswyddau cadwraeth, cyfrifoldebau rheoli, a gweithgareddau masnachol mewn cynefinoedd morol o amgylch Sir Benfro.

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r prosiect wedi cynnal adolygiad fesul cam ac wedi diweddaru:

  • Codau ymddygiad Morol Sir Benfro
  • Cyfyngiadau mynediad y cytunwyd arnynt
  • Deunyddiau ymgysylltu ac arwyddion y Cod Morol

Gyda chyfranogiad hamdden cynyddol ar hyd ein harfordir a phoblogaethau cynyddol o fywyd gwyllt morol gwarchodedig, fel morloi ac adar môr, mae’r diweddariad hwn yn hanfodol. Mae’r canllawiau yn galluogi defnyddwyr arfordirol i fwynhau’r ardal yn gyfrifol tra’n lleihau’r aflonyddwch i’r rhywogaethau bywyd gwyllt hyn sy’n bwysig yn rhyngwladol. Yn y pen draw, mae’r dull hwn yn diogelu’r adnoddau naturiol sy’n rhan annatod o’r profiad arfordirol ac yn cefnogi ymdrechion parhaus i adfer byd natur.

Ymdrech Gydweithredol

Mae Cod Morol Sir Benfro (PMC) yn ddull gwirfoddol a gynlluniwyd ar gyfer defnydd ymarferol. Mae PCF wedi ymgysylltu â’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys trefnwyr teithiau bywyd gwyllt, darparwyr antur masnachol, a chadwraethwyr, i sicrhau bod y cod yn berthnasol ac yn ymarferol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn adeiladu consensws, gan wneud y cod yn effeithiol drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, hunanreoleiddio, ac ymdeimlad o berchnogaeth.

Mae Chris Lawrence, Uwch Swyddog Cadwraeth yng Nghyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn disgrifio’r broses:

Fel Uwch Swyddog Cadwraeth CNC, gwelaf â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae Cod Morol Sir Benfro yn ei chael ar ddiogelu ein hecosystemau arfordirol bregus. Drwy osod canllawiau clir, mae’n helpu ymwelwyr a gweithredwyr fel ei gilydd i ddeall sut i fwynhau amgylchedd morol Sir Benfro tra’n gwarchod ei bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r diweddariadau’n gwneud y Cod Morol yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio, gydag adnoddau ar gael ar-lein ac ar y safle trwy hysbysfyrddau ar lan y traeth ac Ap Wales Coast Explorer/Crwydro Arfordir Cymru. Mae’r offer hyn yn galluogi pawb i ddeall a dilyn y canllawiau, gan helpu i warchod harddwch naturiol unigryw’r ardal.

Diolch!

Ein diolch diffuant i randdeiliaid y prosiect am eu cyfraniadau gwybodus, gan barhau â’r cyd-ddatblygiad sydd wedi llywio llwyddiant Cod Morol Sir Benfro dros yr 20 mlynedd diwethaf. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu negeseuon mwy effeithiol ac ymarferol ar gyfer cod sydd eisoes yn cael effaith.

Parhau â’n Gwaith

Yn ddiweddar, mae PCF wedi lansio gwefan Cod Morol Sir Benfro wedi’i diweddaru, sy’n cynnwys:

  • Codau ymddygiad y gellir eu lawrlwytho
  • Mapiau rhyngweithiol yn dangos cyfyngiadau mynediad ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho

Bydd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sydd ar ddod yn rhannu’r adnoddau ychwanegol hyn, gan dynnu sylw at weithgareddau bywyd gwyllt tymhorol i hyrwyddo hamdden wybodus.

Rydym hefyd yn meithrin perthynas barhaus â rhanddeiliaid a’r cyfryngau i ledaenu ymwybyddiaeth o’r wybodaeth ddiweddaraf am God Morol Sir Benfro.

Sut Gallwch Chi Helpu

Gwnewch y gorau o’ch ymweliadau arfordirol trwy archwilio’r Cod wedi’i ddiweddaru yn:

Helpwch ni i ledaenu’r gair drwy rannu cyngor Cod Morol Sir Benfro a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol @PCFCiC 😊

Arweinir y prosiect hwn gan dîm hamdden cynaliadwy PCF, gyda chefnogaeth gan Bartneriaeth Nature Networks a chyllid gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Cynllun Adeiladu Capasiti Morol ac Arfordirol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).