On 27th November 2024, Pembrokeshire Coastal Forum hosted Nature and Marine Renewable Energy in Focus at the Torch Theatre in Milford Haven. The event tackled one of the most pressing questions in marine renewable energy; ‘Can offshore renewables coexist with efforts to protect and promote nature?‘
With David Tudor, Chair of Wales Coast and Seas Partnership, as our host, we brought together expert panellists and a passionate audience to explore the delicate balance between renewable energy and environmental conservation.
The message from the evening was clear – Marine energy and nature can coexist, but it requires evidence-based planning, innovative technology, and a commitment to environmental protection.
As Emma Williams aptly put it, “We need renewables, but we cannot forget about nature”, and as Kath Wellard identified, by making the ocean accessible to everyone, more people can enjoy it and will want to protect it.
96% of attendees at the event said they had learned something new, and there was an average confidence rating of 4.04 out of 5 in the coexistence of marine energy and nature. Importantly, every respondent left feeling inspired to take action, whether by sharing knowledge, exploring careers in marine renewables, or attending future events.
Key Takeaways from our panellists
- Emma Williams from The Celtic Deep highlighted the unique opportunity to conserve and better understand marine life through renewable energy projects.
- Will Cooke, from renewable energy consultancy firm OWC, stressed the need for a bigger evidence base to improve impact assessments and optimise offshore wind farm designs.
- Kath Wellard, of Royal Haskoning DHV, spoke about the importance of managing existing marine protected areas better and the need to make oceans more accessible so that more people care about the life within it.
- David Jones from The Crown Estate highlighted how marine energy projects are already contributing to nature conservation.
Opportunities and Challenges in Marine Renewable Energy
What’s Out There?
Emma Williams shared incredible insights into the marine biodiversity around Pembrokeshire, from sunfish and dolphins to sharks. The nutrient-rich waters of the Celtic Sea make it a vital habitat for marine life. However, she also pointed out gaps in our knowledge, such as how electromagnetic fields from energy devices might affect large sharks.
Mitigating Risks
The panel discussed ways to reduce risks to marine life:
- Floating offshore wind may pose less risk to seabirds due to its distance from cliffs and lack of fixed foundations.
- Will Cooke informed us of innovations like bubble curtains, which reduce underwater noise during construction.
- Marine protected areas within wind farms create “no-trawl zones,” potentially enhancing biodiversity.
The Bigger Picture
David Jones explained how marine energy aligns with broader priorities, such as energy security for the UK. Projects could have co-location opportunities, like combining seaweed farming with offshore wind farms, which could maximise environmental and economic benefits.
Your Questions, Answered
During the lively Q&A session, attendees raised insightful questions, such as:
- How far off is this renewable future?
If fixed offshore wind is well-established, floating offshore wind is in early commercial stages, whilst wave/tidal energy is in its infancy. A mix of renewable resources will be key to meeting future demands.
- How floating offshore wind in the Celtic Sea impact Manx shearwaters?
Panel members reassured attendees that the impact of marine renewables on Manx shearwaters is very important and high on regulatory and developer agendas. Assessments will be extremely precautionary. Will Cooke stressed that continuous and improved monitoring and data collection will minimise impact.
- How can we give nature a voice?
Emma Williams stressed the need to get more people involved in the conversation and interested in nature and marine energy. Keep showing people what is so amazing about the ocean and people will want to protect it.
Where Do We Go from Here?
The event underscored the importance of ongoing dialogue and collaboration between stakeholders, communities, and policymakers. Attendees expressed unanimous enthusiasm for more educational events and better access to information.
To keep the conversation going:
- Subscribe to the PCF newsletter for updates on marine energy projects and future events.
- Explore career pathways in the growing field of renewable energy.
- Spread the word to friends and family about the importance of marine energy and nature conservation.
This event is a part of the The Marine Energy Engagement Plan: Empowering Communities for a Sustainable Future
A all Ynni’r Môr a Natur Gydfodoli? Daw cymunedau Sir Benfro at ei gilydd i drafod y cydbwysedd bregus rhwng ynni adnewyddadwy a chadwraeth
Ar y 27ain o Dachwedd 2024, cynhaliodd Fforwm Arfordir Sir Benfro Ffocws ar Natur ac Ynni Adnewyddadwy Morol yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau. Aeth y digwyddiad i’r afael ag un o’r cwestiynau mwyaf dybryd ym maes ynni adnewyddadwy morol: A all ynni adnewyddadwy ar y môr gydfodoli ag ymdrechion i amddiffyn a hyrwyddo natur?
Gyda David Tudor, Cadeirydd Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru, fel ein gwesteiwr, daethom â phanelwyr arbenigol a chynulleidfa angerddol ynghyd i archwilio’r cydbwysedd bregus rhwng ynni adnewyddadwy a chadwraeth amgylcheddol. Dyma grynodeb o’r digwyddiad a beth ddysgon ni.
Roedd neges y noson yn glir: Gall ynni’r môr a natur gydfodoli, ond mae angen cynllunio ar sail tystiolaeth, technoleg arloesol, ac ymrwymiad i warchod yr amgylchedd.
Fel y dywedodd Emma Williams yn briodol, “Mae angen ynni adnewyddadwy arnom, ond ni allwn anghofio am natur” ac fel y nododd Kath Wellard, trwy wneud y cefnfor yn hygyrch i bawb, gall mwy o bobl ei fwynhau a byddant eisiau ei warchod.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant, gyda 96% o fynychwyr yn dysgu rhywbeth newydd a sgôr hyder cyfartalog o 4.04 allan o 5 o ran cydfodolaeth ynni’r môr a natur. Yn bwysig ddigon, gadawodd pob ymatebwr gan deimlo eu bod wedi’u hysbrydoli i weithredu, boed hynny drwy rannu gwybodaeth, archwilio gyrfaoedd mewn ynni adnewyddadwy morol, neu fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.
Prif bwyntiau a ddysgwyd gan y Panel
• Emma Williams (Celtic Deep): Amlygodd y cyfle unigryw i warchod a deall bywyd y môr yn well trwy brosiectau ynni adnewyddadwy.
• Will Cooke (OWC): Pwysleisiodd yr angen am sylfaen dystiolaeth fwy i wella asesiadau effaith a gwneud y gorau o gynlluniau ffermydd gwynt ar y môr.
• Kath Wellard (Royal HaskoningDHV): Siaradodd am bwysigrwydd rheoli ardaloedd morol gwarchodedig presennol yn well a’r angen i wneud moroedd yn fwy hygyrch fel bod mwy o bobl yn poeni am y bywyd sydd ynddo.
• David Jones (Ystad y Goron): Tynnodd sylw at sut mae prosiectau ynni’r môr eisoes yn cyfrannu at gadwraeth natur.
Cyfleoedd a Heriau mewn Ynni Adnewyddadwy Morol
Beth sydd Allan yna?
Rhannodd Emma Williams fewnwelediadau anhygoel i fioamrywiaeth forol o amgylch Sir Benfro, o bysgod haul a dolffiniaid i siarcod. Mae dyfroedd llawn maetholion y Môr Celtaidd yn ei wneud yn gynefin hanfodol i fywyd y môr. Fodd bynnag, nododd hefyd fylchau yn ein gwybodaeth, megis sut y gallai meysydd electromagnetig o ddyfeisiau ynni effeithio ar siarcod mawr.
Lliniaru Risgiau
Trafododd y panel ffyrdd o leihau risgiau i fywyd morol:
• Gall gwynt arnofiol ar y môr achosi llai o risg i adar y môr oherwydd ei bellter o’r clogwyni a diffyg sylfeini sefydlog
• Dywedodd Will Cooke wrthym am ddatblygiadau newydd fel llenni swigod, sy’n lleihau sŵn tanddwr yn ystod y cyfnod adeiladu
• Mae ardaloedd morol gwarchodedig o fewn ffermydd gwynt yn creu “parthau dim treillio,” gan wella bioamrywiaeth o bosibl
Y Darlun Ehangach
Eglurodd David Jones sut mae ynni’r môr yn cyd-fynd â blaenoriaethau ehangach, megis sicrwydd ynni ar gyfer y DU. Gallai prosiectau gael cyfleoedd cydleoli, fel cyfuno ffermio gwymon â ffermydd gwynt ar y môr, a allai wneud y mwyaf o fanteision amgylcheddol ac economaidd.
Eich Cwestiynau, Wedi’u hateb
Yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb bywiog, cododd y rhai a oedd yn bresennol gwestiynau craff, megis:
• Pa mor bell i ffwrdd yw’r dyfodol adnewyddadwy hwn?
Os yw gwynt sefydlog ar y môr wedi’i hen sefydlu, mae gwynt arnofiol ar y môr yn ei gamau masnachol cynnar, tra bod ynni tonnau/llanw yn ei ddyddiau cynnar. Bydd cymysgedd o adnoddau adnewyddadwy yn allweddol i fodloni gofynion y dyfodol.
• Sut mae gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd yn effeithio ar adar drycin Manaw?
Rhoddodd aelodau’r panel sicrwydd i’r rhai a oedd yn bresennol fod effaith ynni adnewyddadwy morol ar adar drycin Manaw yn bwysig iawn ac yn uchel ar agendâu rheoleiddio a datblygwyr. Bydd asesiadau yn hynod o ragofalus. Pwysleisiodd Will Cooke y bydd monitro parhaus a gwell a chasglu data yn lleihau effaith.
• Sut gallwn ni roi llais i natur?
Pwysleisiodd Emma Williams yr angen i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y sgwrs a diddordeb mewn byd natur ac ynni’r môr. Daliwch ati i ddangos i bobl beth sydd mor anhygoel am y môr a bydd pobl eisiau ei amddiffyn.
I Ble’r Awn Ni Oddi Yma?
Tanlinellodd y digwyddiad bwysigrwydd deialog a chydweithio parhaus rhwng rhanddeiliaid, cymunedau a llunwyr polisi. Mynegodd y mynychwyr frwdfrydedd unfrydol dros fwy o ddigwyddiadau addysgol a gwell mynediad at wybodaeth.
I gadw’r sgwrs i fynd:
• Tanysgrifiwch i gylchlythyr PCF am ddiweddariadau ar brosiectau ynni’r môr a digwyddiadau yn y dyfodol
• Archwiliwch lwybrau gyrfa ym maes cynyddol ynni adnewyddadwy • Lledaenwch y gair i ffrindiau a theulu am bwysigrwydd ynni’r môr a chadwraeth natur
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Cynllun Ymgysylltu Ynni’r Môr: Grymuso Cymunedau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.