Could you be part of the Future Energy industry in Pembrokeshire?

We are thrilled to extend an invitation to learning groups from Pembrokeshire to utilise our industry-standard test facility.

In our endeavour to foster a collaborative learning environment and further the research in marine technologies, we are launching a competition open to Pembrokeshire learners of all ages!

Economic and Social Evaluation of the Outdoor Activity Sector in Wales

In partnership between Pembrokeshire Coastal Forum and the Wales Adventure Tourism Organisation (WATO), this comprehensive survey, involving more than 600 individuals and businesses in spring 2023, identified significant growth in Wales’ outdoor activity sector over the past decade.

Nature Finance Review 2023 Case Study: PCF

The work of Pembrokeshire Coastal Forum around nutrient trading through the Ecosystem Enterprise Partnership is highlighted as a case study in this important area of work.

Ethnic Diversity Toolkit

Discover the Ethnic Diversity Toolkit for the Coastal Sector!

Pembrokeshire Coastal Forum is committed to making the coast accessible and enjoyable for everyone. We're sharing Represent Us (Ltd)'s Toolkit to help improve ethnic diversity in placements and create a more inclusive environment for all.

Pembrokeshire Coastal Forum - Impact Report 2022

As a stakeholder support organisation, the PCF team is proud of our work connecting communities, businesses, organisations and decision-makers. We hope you enjoy reading about our latest impacts and plans! 

Pembrokeshire Coastal Forum finalist for Wales STEM Educational Programme of the Year

English

Y Newid yn yr Hinsawdd ac Amroth?

 

Mae staff PCF sy’n gweithio ar y prosiect Cymunedau Arfordirol Addasu Gyda’n Gilydd (CCAT) wedi bod yn ymchwilio i adnoddau newid yn yr hinsawdd y gellid eu defnyddio mewn ysgolion a hefyd ar gyfer eraill. Ein pynciau ffocws yw newid yn yr hinsawdd, addasu, a’r arfordir.

Mae Amroth yn dref arfordirol yn Ne-ddwyrain Sir Benfro. Ymunwch â ni ar daith i ymchwilio i sut mae’r pentrefi yn cysylltu â’r newid yn yr hinsawdd, o’r goedwig ôl-rewlifol, trwy ei gorffennol cloddio glo i heriau parhaus erydiad arfordirol a chodiad yn lefel y môr.

 

     

    Cysylltiadau â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru

    I gael gwybodaeth gefndir helaeth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru am y Cwricwlwm Newydd i Gymru a’i Fframwaith, ewch i’r wefan swyddogol:

    https://llyw.cymru/paratoi-ar-gyfer-y-cwricwlwm-newydd 

     

    Pedwar diben y cwricwlwm newydd yw cefnogi’n plant a’n pobl ifanc i fod yn:

    • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
    • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
    • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
    • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
    • Ffynhonnell:https://llyw.cymru/paratoi-ar-gyfer-y-cwricwlwm-newydd 

     

    Cynlluniwyd y Cwricwlwm Newydd i Gymru i helpu ymarferwyr i ddatblygu dull dysgu mwy integredig. Mae’r chwe Maes (o’r Cwricwlwm) yn dod â disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar draws gwahanol ddisgyblaethau:

    Mae’r chwe Maes yn cynnwys Datganiadau o Beth sy’n Bwysig, yr ydym wedi’u crynhoi mewn dogfen gryno yma.

     

     

    O dan bob teitl categori ar y dudalen hon, rydym hefyd wedi awgrymu cysylltu’r adnoddau â Meysydd cwricwlwm penodol gan ddefnyddio’r codau lliw o’r graffig uchod. Byddem hefyd yn annog ymarferwyr dysgu i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn y ffordd fwyaf addas i’w dysgwyr, a allai gynnwys cysylltu’r adnoddau â Meysydd ychwanegol.

     

    CCAT Project: @ccatproject

     

    PCF: @pcf_education & @pcfcic.

     

    Ariennir y prosiect hwn gan

    Y Newid yn yr Hinsawdd ac Amroth

    English

    Y Newid yn yr Hinsawdd ac Amroth?

     

     

    Siapiwyd Amroth gan ei ddaeareg, ei broses naturiol a chan weithgarwch dynol.

    Mae Amroth yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd oherwydd:

    • Mae’r pentref mewn perygl o lifogydd arfordirol oherwydd cynnydd yn lefel y môr a’r nifer cynyddol o stormydd.
    • Cloddiwyd glo, sy’n danwydd ffosil, yn y pentref.
    • Gallwch weld y dystiolaeth o 5,000 o flynyddoedd yn ôl pan oedd lefel y môr yn wahanol iawn.
    1. Dechreuwch gyda’r daith rithwir o amgylch glan y môr Amroth.
    2. Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddysgu mwy am Amroth a newid yn yr hinsawdd.
    3. Defnyddiwch y llinell amser i ddeall sut mae Amroth wedi’i siapio dros amser.
    4. Profwch eich gwybodaeth gan ddefnyddio’r cwisiau hunan-farcio!

     

     

    Groyne, sea defence

     

    1. Dechreuwch gyda’r daith rithwir o amgylch glan y môr Amroth.
    2. Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddysgu mwy am Amroth a newid yn yr hinsawdd.
    3. Defnyddiwch y llinell amser i ddeall sut mae Amroth wedi’i siapio dros amser.
    4. Profwch eich gwybodaeth gan ddefnyddio’r cwisiau hunan-farcio!

    Defnyddiwch y pwyntiau “targed” ar y ddelwedd i ddilyn y rhith-daith o amgylch Amroth.

    Cliciwch ar y symbol gwybodaeth i ddarganfod mwy am bwyntiau o ddiddordeb ar y daith.

    Sgrin lawn ar gyfer yr olwg orau.

     

    Rhannwyd y wybodaeth ar y map yn haenau gyda marcwyr.

     

    Gallwch ddilyn y marcwyr ym mhob haen i gael gwybod mwy am yr ardal.

    Cliciwch y ddewislen ar y chwith uchaf i ddewis haen.

     

    Rydym wedi darparu cwisiau hunan-wirio er mwyn i chi allu profi eich gwybodaeth ar hyd y ffordd!

     

    Mae gan y map:

     

    Haen Braslun Maes

    Haen Newid yn Lefelau’r Môr

    Haen Hanes Amroth

    Haen Nodweddion naturiol?

    Haen Y Newid yn yr hinsawdd

    Haen Mesur Gweithgaredd

     

     

     

    Mae’n haws gweld un haen yn unig ar y tro.

    Agorwch y map mewn ffenestr newydd:   Map Rhyngweithiol Amroth

     

    Tasg 1: Braslun Maes

    Lens Pwnc: Daearyddiaeth

    Sgiliau: Llythrennedd a TGCh

    Amcanion Dysgu

    • Cael dealltwriaeth o Amroth
    • Nodi pa rannau o’r wybodaeth a gyflwynir sydd fwyaf perthnasol
    • Creu “Braslun Maes” ar gyfer Amroth

    Gadewch i ni ddechrau arni a dilyn y marcwyr yn yr Haen Braslun Maes a mwynhau cyflwyniad i bentref glan môr Amroth!

    Mae llawer rydyn ni eisiau ei ddangos i chi, felly eich tasg gyntaf fydd gwneud nodiadau.

    Mae geograffwyr, peirianwyr a syrfewyr i gyd yn creu brasluniau neu nodiadau maes i gofio’r data pwysig ar gyfer safle.

    Maent yn ffordd dda o gofnodi’r wybodaeth ychwanegol na allwch ond ei gweld o fod mewn lle penodol.

    Roedd Brasluniau neu nodiadau maes bob amser wedi’u tynnu â llaw, ond yn awr diolch i dechnoleg, mae’n llawer haws cynnwys lluniau, cysylltiadau digidol neu hyd yn oed fideo.

    Yn y ddogfen mae tair golwg wahanol ar Amroth.  Labelir y mannau lle cymerir y rhain ar y map.

    Rwyf wedi cychwyn ar yr un cyntaf hwn i’ch rhoi ar ben ffordd.

    1. Defnydd,iwch y ddolen i lawrlwytho’r ddogfen.
    2. Dilynwch y daith ar yr haen Braslun Maes. Gwnewch nodiadau ar y ddogfen.
    3. Defnyddiwch eich nodiadau i’ch helpu i ateb y cwis Braslun Maes.

    Tasg ymestynnol

    Defnyddiwch yr haen “Nodweddion Naturiol?” i labelu’r amddiffyniadau arfordirol ac amddiffynfeydd môr yn eich dogfen.

    Tasg 2: Newidiadau yn lefel y môr

    •  Lens Pwnc: Daearyddiaeth

      Sgiliau: TGCh, Rhifedd a Llythrennedd

       

      Amcanion Dysgu

      • Sut i arsylwi a chofnodi nodweddion naturiol ac anthropogenig y dirwedd bresennol.
      • Bydd myfyrwyr hefyd yn gwybod rhywbeth am yr amodau hinsoddol a effeithiodd ar ardal Bae Caerfyrddin yn ystod rhan olaf ‘Oes yr Iâ’, ac am rai newidiadau naturiol sylweddol iawn yn lefel y môr y mae angen eu hystyried mewn perthynas â rhagfynegiadau cyfredol o gynnydd yn lefel y môr o ganlyniad i ddylanwadau dynol.

       

     

    Rydym am fynd ar daith “gerdded” o Amgylch Amroth i weld pa dystiolaeth y gallwn ei gweld sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr. 

    1. Ewch i’r haen Newid yn Lefelau’r Môr (Changing Sea Levels) ar y map.
    2. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cuddio’r haenau eraill.
    3. Dilynwch y daith a gwnewch nodiadau.

    Peidiwch â cheisio ysgrifennu popeth i lawr!  Penderfynwch beth yw’r pwyntiau allweddol ar gyfer pob rhan o’r daith a’u nodi.

    Cofiwch nad oes rhaid i nodiadau fod yn rhestr! Bydd lluniau, swigod meddwl a saethau yn eich helpu i gipio’r syniadau pwysig.

    1. Defnyddiwch eich nodiadau i geisio ateb y cwis “Newid yn Lefelau’r Môr”.

     

     

     

    Tasg 3: Newid yn yr Hinsawdd

     

    Lens pwnc: Daearyddiaeth

    Sgiliau: TGCh, Llythrennedd, Datrys problemau

    Amcanion Dysgu:

     

    Mae’r daith yn ymdrin ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd pan gaiff ei hystyried o safbwynt Amroth.

    Bydd y disgyblion yn gwneud nodiadau ar y wybodaeth a ddarperir.

    Ystyriwch sut y gall cymuned fel Amroth gynllunio i addasu i newid yn yr hinsawdd.

     

     

     

    Bydd angen i chi ddefnyddio haen Y Newid yn yr Hinsawdd o’r map rhyngweithiol.

    Cofiwch guddio’r haenau eraill i wneud y map yn haws i’w ddefnyddio.

     

    1. Dilynwch y daith ar yr haen map. Penderfynwch pa rai yw’r syniadau pwysicaf, a gwnewch nodyn ohonynt. Gallech wneud hyn yn ddigidol; bydd yr offeryn SNIP yn ddefnyddiol os gwnewch hynny.

    Peidiwch â cheisio ysgrifennu popeth i lawr!  Penderfynwch beth yw’r pwyntiau allweddol ar gyfer pob rhan o’r daith a’u nodi.

    Cofiwch nad oes rhaid i nodiadau fod yn rhestr! Bydd lluniau, swigod meddwl a saethau yn eich helpu i gipio’r syniadau pwysig.

    1. Cwblhewch y cwis Y Newid yn yr Hinsawdd. Gallwch ddefnyddio eich nodiadau i’ch helpu.
    2. Dewch o hyd i’r Safle Bws (marciwr 12) ar y map.

    Eich tasg nesaf yw dylunio’r “Safle Bws” ar gyfer 2030.

    Bydd yn rhaid i’ch dyluniad ystyried y newid yn yr hinsawdd.   A ellid defnyddio’r safle bws ar gyfer pethau eraill?  Pwynt gollwng ar gyfer nwyddau, cynhyrchu pŵer, lle i osod eitemau, chi sy’n penderfynu.

    Meddyliwch am:

    Addasu: Sut bydd eich safle bws yn goroesi stormydd mwy neu fwy o law?  A fydd yn yr un lle, sut olwg fydd arno.

    Lliniaru: Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau carbon.  A fydd bysiau neu geir hunan-yrru? Beth fydd yn eu pweru? Pa mor aml y byddant yn dod?  Sut bydd y safle bws yn rhoi gwybodaeth i chi i gynllunio’ch taith?

    Cydnerthedd: A fydd gan y safle bws bwrpas yn ystod argyfwng? Gallai hon fod yn orsaf cymorth cyntaf, yn fan cyfarfod, neu’n storfa ar gyfer offer llifogydd.

     

    Tasg 4: Tasg Mesur

    Lens pwnc: Daearyddiaeth

    Sgiliau: Rhifedd, TGCh

    Amcanion Dysgu:

    Llywio’r map a defnyddio’r offeryn mesur.

    Deall costau cymharol gwahanol fathau o ddiogelu’r arfordir ac amddiffynfeydd môr.

     

    Tasg Mesur:

    Yn y dasg hon rydych chi’n mynd i ddefnyddio’r offeryn mesur i fesur hyd gwahanol nodweddion ar hyd glan môr Amroth.

    1. Agorwch yr haen Tasg Mesur ar y map rhyngweithiol. Mae’n well os ydych yn cuddio’r holl haenau eraill ar y map.
    2. Gweithiwch drwy’r cwis Tasg Mesur.

     

     

     

    Tasg 5: Hanes Amroth

    Lens Pwnc: Hanes

    Sgiliau: TGCh, Llythrennedd

    Amcanion Dysgu:

    Archwiliwch y digwyddiadau yn y gorffennol sydd wedi llunio Amroth a’r gymuned sy’n byw yno.

    Ystyriwch berthnasedd, dibynadwyedd a rhagfarn y wybodaeth a gyflwynir yn llinell amser Amroth.

     

     

    Amroth and its community have been shaped by events in the past.

    1.  Skim read through the timeline.

    2. Use the timeline for reference to answer the questions in the quiz.

    3. Write a list of the 10 pieces of evidence from the timeline you think had the most influence on people living in Amroth.

    4. For each of your top 10 give a score out of 5 for:

    Impact of that event at the time.

    Reliability of the information.

    5.  Create an infographic, timeline, or poster to show your interpretation of how the past has shaped Amroth.

    Lens Pwnc: Celf

    Sgiliau: Defnyddio cyfrwng dewisol y disgyblion.

    Cyfle i ddefnyddio’r broses greadigol i gyfleu eu gweledigaeth o’r dyfodol i gynulleidfa benodol.

    Deilliannau Dysgu: Bydd y disgyblion yn ystyried sut y bydd y newid yn yr hinsawdd ac ymateb pobl iddo yn newid pentref Amroth.

    Dylid rhoi cyfle i’r disgyblion fyfyrio ar eu gwaith eu hunain a’u cyfoedion.  Dylent ystyried sut maen nhw’n teimlo am wahanol fersiynau’r dyfodol yn ogystal ag arddull y darn o waith ei hun.

     

    Mae y newid yn yr hinsawdd yn sbarduno llawer o newidiadau yn ein byd, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol. Gall newidiadau i’r clogwyni, y traethau a’r trefi ddigwydd yn gyflym iawn gan eu bod yn fwy agored i effeithiau tywydd eithafol, gan gynnwys stormydd mawr a lefelau’r môr yn codi. Mewn ardaloedd gwledig, efallai y bydd pobl yn profi mwy o sychder, llifogydd ac anhawster i gael gafael ar wasanaethau hanfodol oherwydd eu bod yn fwy anghysbell o gymunedau eraill.

    Gall lluniadau, ffotograffau a delweddau gweledol ein helpu i weld ein byd a’r holl newidiadau sy’n digwydd, a gallant gael effaith fawr. Mae’n bryd cael eich gweledigaeth o ddyfodol Amroth, cymuned arfordirol a allai fod yn eithaf agored i newid eithafol.

    1. Ewch i fan ar fap golwg stryd Google o Amroth lle gallwch weld nodweddion naturiol a wnaed gan ddyn. Gallech ddechrau yn y fan hon yn y ddolen gyntaf isod, a “cherdded drwy’r” map nes i chi ddod o hyd i rywle rydych chi am ei gipio.
    2. Mae angen i chi esgus eich bod yn anfon cerdyn post at rywun o Amroth yn y dyfodol i ddangos iddynt sut mae’n edrych, gallech ddychmygu eich bod yn byw yno neu efallai eich bod ar wyliau yn unig. Ystyriwch yr amser rydych am “bostio” ohono – mae’n debygol, os ydych am anfon eich cerdyn post o’r dyfodol pell (y tu hwnt i 2050) y gallech weld rhai newidiadau sylweddol iawn.
    3. Gan ddefnyddio’r man rydych wedi’i ddewis fel templed, ewch i nôl darn o bapur neu gerdyn A5 gwag a dechrau braslunio’ch syniadau. Defnyddiwch unrhyw ddeunyddiau rydych chi’n eu hoffi!

    Gallai’r cwestiynau canlynol helpu i’ch tywys:

    Pa strwythurau fydd/na fydd yno?

    Pa ffynhonnell bŵer fydd tref Amroth yn ei defnyddio? O ble y daw’r ynni?

    A fydd y môr yn siapio sut mae’r arfordir yn edrych yn y dyfodol?

    A oes unrhyw bobl yno?

    Awgrym gwych: Efallai y byddwch am fraslunio ychydig o syniadau gwahanol ar ddarn o bapur ar wahân cyn trosglwyddo eich gweledigaeth derfynol i gerdyn post. Os hoffech weld beth mae rhai artistiaid eraill wedi’i greu, cliciwch ar yr ail ddolen isod.

    Google streetview of Amroth

    http://www.postcardsfromthefuture.com/postcard_images/