Pecyn Cymorth Addasu i’r Hinsawdd:
Hwb Dysgu
Ar y dudalen hon, fe welwch amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i ddeall addasu i’r hinsawdd a pham ei fod yn bwysig i Sir Benfro. P’un a ydych yn breswylydd lleol neu’n chwilfrydig am newid hinsawdd, mae rhywbeth yma at ddant pawb i’ch helpu i ddechrau arni.
Deall Addasiadau i’r Hinsawdd a Newid Hinsawdd
Pam fod angen i ni addasu?
Mae’r hinsawdd yn newid yn gyflymach nag erioed o’r blaen, a gall y newidiadau hyn fygwth ein diogelwch, ein hiechyd a’n lles economaidd.
Er y gallwn leihau difrifoldeb newidiadau yn y dyfodol drwy dorri ein hallyriadau carbon, mae angen i ni hefyd baratoi ar gyfer ystod eang o heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd sydd eisoes yn digwydd oherwydd allyriadau’r gorffennol. Gallai hyn gynnwys gwneud newidiadau i’n hadeiladau fel eu bod yn llai tebygol o ddioddef llifogydd neu’n gallu gwrthsefyll stormydd a thywydd eithafol yn well.
Mae addasu yn helpu i ddiogelu bywydau a seilwaith, gan sicrhau bod pawb, yn enwedig grwpiau agored i niwed, yn gallu ymdopi’n well â newidiadau mewn patrymau hinsawdd.
Deall effeithiau hinsawdd a'r strategaeth addasu gyfredol yn Sir Benfro
Mae Cyfathrebu, Cydweithio a Meithrin Gallu wrth wraidd ymdrechion i helpu cymunedau yn Sir Benfro i addasu i newid yn yr hinsawdd.
Mae’r cyflwyniad byr hwn yn cyfleu’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, yn amlinellu’r camau gweithredu blaenoriaeth o Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro, ac yn archwilio’r hyn y gall cymunedau a sefydliadau ei wneud nawr i baratoi ar gyfer y risgiau cynyddol o newid yn yr hinsawdd.
Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro
Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF), Netherwood Sustainable Futures (NSF) a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro wedi datblygu strategaeth Addasu i’r Hinsawdd gyda busnesau, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol.
Protocol Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro
Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu Protocol Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro gyda gweithdai a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol. Mae datblygu protocol yn un o 24 camau gweithredu yr ymrwymwyd iddynt yn Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a fabwysiadwyd yn 2022.
Cyflwyniadau, Dogfennau a Gwefannau Defnyddiol
Cymerwch olwg ar yr adnoddau hyn i ddarganfod mwy am newid hinsawdd ac addasu i’r hinsawdd.
Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru (CCRA3)
Darllenwch yr Asesiad Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru (CCRA3) llawn i ddysgu am y risgiau allweddol.
Pecyn Cymorth Camwybodaeth yn ymwneud â’r Hinsawdd
Mae gwybodaeth anghywir wedi’i nodi fel un o’r prif achosion dros ddiffyg gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae’r cyflwyniad hwn yn amlinellu sut y gallwn sicrhau nad ydym yn cael ein hysbysu’n anghywir am newid hinsawdd a’n helpu i gael ein negeseuon yn gywir.
Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r llyfryn hwn i rannu gwybodaeth am eu cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd.
Gweithredu ar Newid Hinsawdd yng Nghymru – Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd (2023-2026)
Dyma strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd Llywodraeth Cymru ar Newid Hinsawdd.
Cynlluniau Rheoli Traethlin
Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin (CRhT) yn cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau amgylcheddol, a grwpiau cymunedol, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol tra’n cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol. Mae CRhT yn anstatudol ond maent yn hanfodol ar gyfer llywio rheolaeth gynaliadwy ar yr arfordir a llywio penderfyniadau buddsoddi.
Mae Sir Benfro rhwng dau o’r Cynlluniau Rheoli Traethlin hyn a gallwch ddod o hyd i ddolenni i ddarllen mwy am eich ardal benodol chi yn Sir Benfro.
Cynllun Llifogydd Cymunedol a Thaflen ‘Ydych Chi’n Barod am Lifogydd?’
Darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cynllun llifogydd cymunedol, a lawrlwythwch y daflen ‘Ydych chi’n barod am lifogydd?’
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n cynhyrchu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’r Cynllun yn cynnwys testun a mapiau, ac ynghyd â pholisi cynllunio cenedlaethol bydd yn llywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Fideos Defnyddiol
Gwyliwch y fideos hyn i ddarganfod mwy am newid hinsawdd ac addasu i’r hinsawdd.
Y Swyddfa Dywydd – Y Ffeithiau ar Newid Hinsawdd
Y Swyddfa Dywydd: Mae’r blaned a’i dyfodol yn bwysig – rydym i gyd eisiau sicrhau y gall ein hanwyliaid barhau i fyw a’i mwynhau yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r tywydd a’r hinsawdd yn rhan hanfodol o iechyd y blaned. Fodd bynnag, mae gwybodaeth anghyson yn bygwth hyn. Yn y fideo hwn, rydym yn rhannu ffeithiau a thystiolaeth am newid yn yr hinsawdd i helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth ynghylch yr hinsawdd.
Beth yw Sero Net?
Sut mae Cymru yn cyrraedd ei thargedau tuag at Sero Net? Mae’r pwyllgor newid hinsawdd yn rhannu cynnydd ar ein taith i Sero Net – DS Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan Dr Emily Pearce yn dechrau ar 3 munud:47 – Y Pwyllgor Newid Hinsawdd – adroddiad 2024 i’r Senedd
Britain Talks Climate 2024 (mewnwelediadau Cymru)
Beth yw barn pobl eraill yng Nghymru? Wel efallai y cewch eich synnu o glywed bod ‘yr awydd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn gryf ac yn barhaus’. Cliciwch yma i weld y cyflwyniad sy’n dechrau am 14:20 munud gan Emma ar raglen Britain Talks Climate (crynodeb diweddariad Cymru) 2024…
The Secret to Talking about Climate Change
Gall siarad am newid hinsawdd gyda ffrindiau a theulu fod yn heriol, ond mae’r fideo hwn yn rhannu awgrymiadau i wneud y sgyrsiau hynny’n haws ac yn fwy dylanwadol. Spoiler – y gyfrinach yw gwrando …
UQx DENIAL101x 2.2.3.1 Sea Level Rise
Mae’r fideo hwn yn esbonio sut mae cynhesu byd-eang yn arwain at ehangu thermol a thoddi iâ tir, ac yn y pen draw achosi codiad yn lefel y môr.
Three Horizons Framework: The Three Voices
Mae’r fideo hwn yn amlygu sut y gall y ‘three horizons’ weithio gyda’i gilydd i hwyluso a llywio trafodaethau am y dyfodol.
Beth yw Addasu i’r Hinsawdd?
Gall byd natur ein helpu i addasu i newid hinsawdd ac amddiffyn ein cymunedau rhag niwed, darganfyddwch sut yn y fideo hwn.
Dolenni Cyflym
Hwb Dysgu
Archwiliwch ein tudalen dysgu i ddarganfod mwy am newid hinsawdd ac addasu i’r hinsawdd.
Gweithredu Cymunedol
Darganfyddwch amrywiaeth o offer, canllawiau a deunyddiau ymarferol i gefnogi camau gweithredu addasu i’r hinsawdd yn eich cymuned yn Sir Benfro.
Rhwydwaith ar gyfer Gweithredu
Cyfeiriadur o sefydliadau sydd â chynlluniau, strategaethau ac adnoddau a all gefnogi eich cymuned.
Cysylltu â ni a Cwestiynau Cyffredin
Cysylltwch â ni heddiw neu dysgwch fwy trwy ein cwestiynau cyffredin.